Mae S4C wedi cyhoeddi mai Megan Davies yw'r myfyriwr ôl-radd sydd wedi ennill Ysgoloriaeth T Glynne Davies ar gyfer 2018-19.
Mae Megan, 23 oed, sy'n wreiddiol o Bontarddulais ger Abertawe, yn dilyn cwrs MA mewn Newyddiaduraeth Darlledu yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd ar hyn o bryd.
Yn ogystal â derbyn hyfforddiant trwyadl ar y cwrs MA gan Ysgol Newyddiaduraeth sydd ar flaen y gad yn rhyngwladol yn y maes, mae Megan yn cael cyfle i gael profiad uniongyrchol gyda thîm materion cyfoes ITV Cymru gan weithio ar wasanaeth ar-lein ffurf fer S4C, Hansh.
Meddai Megan, a dderbyniodd ysgoloriaeth gwerth dros £6,000, "Rydw i'n hynod o ffodus ac yn ddiolchgar iawn i ennill yr ysgoloriaeth hael yma. Ers i mi fod yn blentyn, newyddiaduraeth oedd fy ngôl mewn bywyd. Mae'r cyfle, felly, i ddilyn cwrs Prifysgol Caerdydd gyda chymorth S4C yn hollbwysig i mi ac rwyf wedi dysgu cymaint yn barod.
"Mae angen cyfryngau cryf a chyfoes ar Gymru yn fwy nag erioed. Edrychaf ymlaen at feithrin sgiliau newydd a thyfu yn broffesiynol gan obeithio fod yn rhan o gyfryngau ein gwlad yn y dyfodol."
Ar ôl ennill gradd anrhydedd mewn Ffrangeg a Saesneg ym Mhrifysgol Caerwysg, gyda chymorth ariannol ei rhieni, bu'n gweithio'n ddi-dâl i nifer o gylchgronau a gwasanaethau newyddion er mwyn magu profiad.
Dywedodd Catrin Hughes Roberts, Cyfarwyddwr Partneriaethau S4C, "Rydym yn falch o fedru cynnig Ysgoloriaeth T Glynne Davies i Megan. Fe wnaeth ei brwdfrydedd, creadigrwydd a dealltwriaeth newyddiadurol greu argraff arnom a'n gobaith yw y bydd hi'n medru defnyddio'r sgiliau y mae'n eu magu i gyfrannu at faes newyddiaduraeth yn y Gymraeg ac yng Nghymru am flynyddoedd i ddod."
Sefydlwyd yr ysgoloriaeth fel teyrnged i'r bardd, nofelydd, newyddiadurwr a darlledwr T.Glynne Davies a fu farw yn 1988.
Dros y blynyddoedd, mae nifer o'n newyddiadurwyr a'n darlledwyr amlyca' yn y Gymraeg wedi derbyn yr ysgoloriaeth a dilyn y cwrs yn yr Ysgol Newyddiaduraeth uchel ei pharch.
Ymysg y rhain mae Sian O'Callaghan. Pennaeth Newid BBC Cymru, newyddiadurwyr darlledu gyda'r BBC, Ben Price, Steffan Powell, Rhiannon Wilkins, Rhys Williams a Gwenllïan Glyn a gydag ITV Cymru, Bethan Muxworthy. Mae enillydd ysgoloriaeth y llynedd Carwyn Eckley nawr yn gweithio i adran newyddion BBC Cymru.
Bydd Megan yn cael profiad o weithio gyda thîm newyddion BBC Cymru hefyd fel rhan o'r cwrs MA.
Dywedodd Tony O'Shaughnessy, Cyfarwyddwr Cwrs, MA Newyddiaduraeth Darlledu, Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, "Rydym ni mor falch dros Megan - mae'n ymuno â grŵp o bobl sydd wedi mwynhau gyrfaoedd llwyddiannus ym maes newyddion darlledu a materion cyfoes, diolch i gefnogaeth S4C ac Ysgoloriaeth T Glynne Davies."
DIWEDD