13 Mawrth 2019
Mae'n bwysig bod plant yn dod i arfer â gwneud y penderfyniadau cywir ynglŷn â'u hiechyd er mwyn byw bywyd hapus. Dyna yw neges ymgyrch newydd mae cyfres iechyd S4C, FFIT Cymru, yn rhannu ymysg ysgolion cynradd ledled Cymru.
Ym mis Ionawr, fe wnaeth dogfen ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, Pwysau Iach: Cymru Iach, ddatgelu fod 28 y cant o blant rhwng pedair a phump oed yng Nghymru un ai dros eu pwysau neu yn ordew. Mae plant gordew rhwng pedair a phump oed yn 80 y cant yn fwy tebygol o fod yn ordew pan yn oedolyn.
I gyd-fynd â neges Ysgolion Iach gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae Camau Bach, Newid Mawr yn ymgyrch sy'n anelu at ddysgu plant i wneud penderfyniadau bob dydd yn gywir, er mwyn cael effaith bositif ar eu hiechyd hir dymor.
Y nod yw annog ysgolion ar draws Cymru i ymuno â'r ymgyrch Camau Bach, Newid Mawr yn ystod y gyfres nesaf o FFIT Cymru, sydd yn cychwyn nos Fawrth 2 Ebrill, ar S4C. Bydd ysgolion sy'n cymryd rhan yn ymddangos yn ystod y gyfres i egluro sut maen nhw'n dod yn eu blaenau ac i awgrymu gweithgareddau eu hunain i'r genedl.
Un cyfrannwr i'r ddogfen ymgynghoriad yw'r dietegydd Sioned Quirke. Fel un o'r prif arbenigwyr yng Nghymru ar reoli pwysau, mae Sioned yn rhedeg clinic gordewdra i oedolion a phlant, yn ogystal â bod yn ddietegydd i'r gyfres iechyd a ffitrwydd ar S4C, FFIT Cymru.
Fe aeth Sioned a chyflwynydd FFIT Cymru Lisa Gwilym i ymweld ag Ysgol Gynradd Henllan yn Sir Ddinbych, ac Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant, yn Rhondda Cynon Taf, i rannu negeseuon yr ymgyrch gyda'r plant. Mi fydd camerâu FFIT Cymru yn dychwelyd i'r ysgolion ar ddiwedd y gyfres i weld pa effaith mae'r newidiadau bychain yma wedi cael dros gyfnod o ddeufis.
Dywedodd Sioned Quirke: "Nod Camau Bach, Newid Mawr yw dysgu plant i wneud newidiadau syml sydd yn hawdd i'w hail-adrodd bob dydd, pethau cynaliadwy fel; gweithgaredd ymarfer corf dyddiol yn y dosbarth; yfed dŵr tap yn hytrach na diodydd sydd â lot o siwgr; a dysgu plant sut i goginio bwyd iach mewn ffyrdd syml.
"Fe gafodd FFIT Cymru ymateb anhygoel gan wylwyr y llynedd, ac nid yn unig gan oedolion. Fe ymunodd gymaint o ysgolion gyda'r cynlluniau ymarfer corf a ffitrwydd, ac mi oedden nhw'n awyddus iawn i wneud eto eleni. Wrth gael plant i gymryd rhan yn ymgyrch Camau Bach, Newid Mawr, rydym yn gobeithio y byddent yn ysgogi eu teuluoedd i wneud yr un newidiadau, fydd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr yn yr hir dymor."
Dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething: "Rydym i gyd am eisiau'r gorau i'n plant, a sicrhau eu bod yn cael bywyd iach a hapus. Mae iechyd plant yn ffocws allweddol yn ein hymgynghoriad Pwysau Iach: Cymru Iach.
"Nid oes unrhyw ffordd i ddelio a gordewdra dros nos, ond trwy gydweithio ac anfon negeseuon cadarnhaol am iechyd, ffitrwydd a maeth trwy ymgyrchoedd fel FFIT Cymru, gallwn ni helpu i fynd i'r afael ag un o'r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf sy'n wynebu Cymru."
Dywedodd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams: "Mae Addysg Gorfforol yn rhan hanfodol o gwricwlwm yr ysgol.
"Rwy'n credu bod cael y cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon tu mewn a thu allan i'r ysgol yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad plentyn.
"Bydd ein cwricwlwm newydd yn cynnwys Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles a fydd yn ystyried pwysigrwydd gweithgaredd corfforol ar gyfer lles corfforol a meddyliol ein plant, gan gefnogi eu datblygiad, a sicrhau eu bod yn tyfu i fod yn unigolion iach a hyderus."
I ddilyn cynlluniau bwyd ac ymarfer corfforol FFIT Cymru, ewch i www.s4c.cymru/ffitcymru, neu dilynwch @ffitcymru ar Facebook a Twitter.