Mae cyfres antur ddychrynllyd i bobl ifanc ar S4C, Prosiect Z, wedi ennill gwobr y rhaglen blant orau yng ngwobrau yr RTS (Royal Television Society).
Cynhaliwyd y seremoni heno (Nos Fawrth 19 Mawrth) yn y Grosvenor House Hotel yn Llundain.
Mae cyfres gêm Prosiect Z, sy'n gynhyrchiad gan Boom Cymru, yn dilyn grwpiau o blant ysgol wrth iddyn nhw gwblhau tasgau er mwyn dianc o'u hysgolion heb ddenu sylw'r 'Zeds'; sef sombis sydd wedi eu heintio gan firws sy'n peryglu'r byd!
Dywedodd Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C: "Rydym ni wrth ein bodd fod Prosiect Z wedi ennill categori y rhaglen blant orau yng ngwobrau RTS. Mae'r tîm cynhyrchu wedi creu fformat hollol wreiddiol a beiddgar sy'n torri tir newydd ac mae'r wobr yma'n cydnabod eu creadigrwydd a'u gwaith caled. Llongyfarchiadau mawr i'r criw."
Enillodd Prosiect Z wobr BAFTA Plant yn 2018 ac hefyd cafodd y gyfres ei henwebu ar gyfer gwobr Prix Jeunesse Internationala chael ei dewis ar y rhestr fer o blith dros 400 o gynigion gan ddarlledwyr ar draws y byd.
Mae Prosiect Z yn gynhyrchiad gan Boom Cymru ac yn rhan o arlwy Stwnsh ar S4C.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?