Am yr ail flwyddyn yn olynol mae S4C a'r cwmni cynhyrchu Rondo Media yn chwilio am seren ifanc i gynrychioli Cymru yn y Junior Eurovision Song Contest.
Dyma gyfle unigryw i bobl ifanc rhwng 9-14 oed, unigolion neu grwpiau o hyd at chwech aelod i berfformio o flaen cynulleidfa o filiynau ar draws Ewrop a thu hwnt.
Llynedd am y tro cyntaf erioed fe wnaeth Cymru gystadlu fel cenedl unigol yn y Junior Eurovision Song Contest. Manw Lili o Rostryfan oedd yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth ym Minsk, Belarws fis Tachwedd 2018.
Bydd Lloyd Macey yn ymuno gyda Tara Bethan a Connie Fisher eleni fel un o'r mentoriaid. Daeth Lloyd i enwogrwydd ar gyfres boblogaidd The X Factor yn 2017 ac mae wedi perfformio yn fyw i gynulleidfaoedd o dros 150,000 ar draws Prydain.
"Dwi wrth fy modd i gael ymuno gyda'r mentoriaid." meddai Lloyd."Dwi'n ffan mawr o'r Eurovision Song Contest ac wedi bod yn gwylio ers blynyddoedd. Dwi'n edrych mlaen i gwrdd â'r cystadleuwyr a'u helpu drwy'r broses. Fe wnes i wylio'r gyfres llynedd ac roedd y talent yn gwbl anhygoel. "
"Dwi'n meddwl ein bod ni'n lwcus iawn yng Nghymru fod gyda ni draddodiad o berfformio ond hefyd ry'n ni'n gyfarwydd a chael beirniadaeth a phlesio beirniaid. Ry'n ni wedi arfer gorfod dysgu o hynny a gweithio ar ein crefft ac mae hynny'n rywbeth unigryw ac arbennig iawn." eglura Lloyd.
"Dwi methu aros i'r clyweliadau gychwyn a dwi'n edrych mlaen i weld pwy fydd yn chwifio baner Cymru ar lwyfan Ewrop!"
Cynhelir Junior Eurovision Song Contest 2019 yn Arena Gilwece, Gwlad Pwyl eleni ar 24 Tachwedd 2019. Bydd S4C yn darlledu'r gystadleuaeth yn fyw a chyn hynny bydd tair rhaglen yn ein tywys drwy'r daith o ddod o hyd i sêr ifanc, gyda chyfle i'r cyhoedd ddewis eu ffefryn i deithio i Wlad Pwyl.
Yn Ewrop does yr un gystadleuaeth sy'n cymharu a'r Eurovision Song Contest. Mae'r chwaer gystadleuaeth i berfformwyr ifanc 9-14 oed yn gynhyrchiad yr un mor uchelgeisiol, ac yn denu sylw o bob rhan o Ewrop a thu hwnt. Mae miloedd o bobl yn dod i wylio'r gystadleuaeth yn fyw, ac mae miliynau rhagor yn gwylio ar deledu mewn degau o wledydd.
Bydd cyfres o glyweliadau cyntaf yn cael eu cynnal yn y lleoliadau canlynol:
Caerfyrddin - Canolfan S4C yr Egin, 24 Ebrill 2019 (Bore)
Aberystwyth – Canolfan y Celfyddydau, 24 Ebrill 2019 (Prynhawn)
Llandudno – Venue Cymru 25 Ebrill 2019 (10.30 – 15.00)
Caerdydd – Canolfan Mileniwm Cymru 5 Mai 2019
Mae dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am 10 y.h ar 18 Ebrill 2019. Mae gwybodaeth lawn am y rheolau a sut i ymgeisio ar gael ar lein ar s4c.cymru/junioreurovision
DIWEDD