Bydd Giro d'Italia 2019 i'w weld ar S4C gyda darllediadau byw ac uchafbwyntiau o bob cymal.
Mae'r Corsa Rosa yn cael ei gynnal am y 102fed tro eleni ac yn cychwyn gyda ras yn erbyn y cloc yn y cymal agoriadol, yn Bologna ddydd Sadwrn 11 Mai.
Yna, bydd y ras yn ymlwybro 3,518.5km wrth i'r peloton wynebu saith cymal sy'n gorffen ar ben gopa. Bydd y ras yn cyrraedd ei derfyn yn Veronaddydd Sul 2 Mehefin, gyda chymal ras yn erbyn y cloc, ble fydd enillydd y Crys Pinc - y Maglia Rosa - yn cael ei goroni.
Bydd Seiclo yn darlledu pob cymal yn fyw ac yn dangos uchafbwyntiau bob nos, ar S4C, S4C Clic, BBC iPlayer a Facebook Live.
Bydd tîm profiadol Seiclo, sy'n cynnwys Wyn Gruffudd, John Hardy, Rheinallt a Peredur ap Gwynedd, y beiciwr proffesiynol Gruff Lewis a Dewi a Gareth Rhys Owen, yn sylwebu ac yn dadansoddi pob cymal.
Dywedodd Comisiynydd Chwaraeon S4C, Sue Butler: "Mae'n bleser i ychwanegu Grand Tour arall, y Giro d'Italia, at ein portffolio chwaraeon. Y Giro yw un o'r rasus harddaf a mwyaf heriol ar y calendr seiclo, a rydyn ni'n edrych ymlaen at allu dangos y ras cyffrous yma i'n gwylwyr."
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:
Mae Seiclo wedi bod yn dangos y Tour de France a rasus clasuron y Gwanwyn ers 2014. Dyma yw'r tro cyntaf i'r sianel ddarlledu'r Giro d'Italia.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?