Mewn gyrfa o dros chwarter canrif gyda'r BBC, mae Gwenllian wedi cynhyrchu amryw o ddramâu gan gynnwys Pobol y Cwm, Casualty, cyfres ffilmiau fer BBC 2 a nifer o ddigwyddiadau byw gan gynnwys y Cardiff Singer of the World.
Yn wreiddiol o Gaerdydd fe astudiodd Gwenllian gwrs Cyfathrebu yng Ngholeg Normal Bangor a llwyddodd i gael swydd gydag adran ddrama'r BBC yn fuan iawn wedyn.
Wrth groesawu ei phenodiad fe ddywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Amanda Rees: "Mae'n wych gallu croesawu Gwenllian i ymuno â'n tîm comisiynu ar ôl gyrfa ddisglair gyda adran ddrama BBC Cymru. Mae hi'n dod â phrofiad helaeth o gynhyrchu amryw o ddramâu. Mae ganddi ddealltwriaeth eang o'r maes ac mae'n braf ei bod wedi bod yn rhan mor allweddol o rai o gynyrchiadau mwyaf llwyddiannus y sianel. Edrychaf ymlaen at ei chroesawu."
Dywedodd Gwenllian Gravelle: "Rwy'n edrych mlaen yn fawr at ymuno â thîm comisiynu S4C. Mae'n gyfnod euraidd ym myd drama yng Nghymru gyda nifer fawr o gynyrchiadau o'r safon uchaf fel Bang, Craith ac Un Bore Mercher wedi eu creu yng Nghymru yn ddiweddar. Rwy'n gobeithio datblygu ar y llwyddiant hwn gan ddod â chynnyrch heriol, gwreiddiol ac arloesol i wylwyr S4C."
Bydd Gwenllian yn cychwyn yn ei swydd newydd ym mis Mehefin 2019.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?