31 Mawrth 2020
Wrth i bawb geisio addasu eu ffordd newydd o fyw drwy hunan ynysu yn eu cartrefi, bydd y gyfres FFIT Cymru yn dychwelyd i rannu syniadau positif ac ysbrydoledig gyda'r genedl.
Dros gyfnod o dau fis, bydd pum arweinydd o bob cwr o Gymru yn ceisio trawsnewid eu hiechyd drwy ddilyn cynlluniau arbennig gan y tri arbenigwr, y dietegydd Sioned Quirke, yr hyfforddwraig bersonol Rae Carpenter a'r seicolegydd Dr Ioan Rees.
Gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf, bydd yr arweinwyr a'u teuluoedd yn rhannu pob cam o'u taith FFIT Cymru gyda'r gyflwynwraig Lisa Gwilym yn y stiwdio, a'r gwylwyr gartref.
Bydd yr arbenigwyr yn rhannu cyngor ar sut i gadw'n ffit tra'n ynysu adref, sut i ofalu am les ac iechyd meddwl ac yn rhannu cyngor ar sut i fabwysiadu arferion bwyta da.
Yn ogystal, eleni bydd y cogydd adnabyddus sydd wedi cystadlu ar y gyfres Great British Bake Off, Beca Lyne-Pirkis, yn cyfrannu i'r cynllun bwyd bob wythnos gan gynnig ryseitiau iachus sy'n hawdd i'w dilyn ac ail-greu adref.
Mewn cyfnod sy'n heriol ac ansicr i bawb, bydd FFIT Cymru yma i gynnig cysur i bawb a bydd hi'n bosib i CHI gymryd rhan adref hefyd trwy ddilyn y cynlluniau bwyd a ffitrwydd arbennig ar-lein ar wefan FFIT Cymru, www.s4c.cymru/ffitcymru ac ar gyfryngau cymdeithasol @ffitcymru.
Meddai Siwan Haf, Cynhyrchydd y gyfres: "Bydd FFIT Cymru yn gyfres all helpu pobl i gadw'n iach - yn gorfforol a meddyliol wrth i bawb orfod byw ar wahân o'u teuluoedd a'u ffrindiau.
"Dyma blatfform aml-gyfrwng all gynnig arweiniad a help llaw ymarferol mewn cyfnod o ymbellhau'n gymdeithasol a hunan-ynysu.
"Cawn weld sut bydd ein harweinwyr yn ymdopi gyda'r 'norm' newydd wrth i bawb orfod addasu. Mae popeth wedi newid i bawb a byddwn yn gweld sut mae ein harweinwyr a'u teuluoedd yn ymdopi i fyw bywyd iach gan dderbyn cyngor bob cam o'r daith unigryw hon gan ein tri arbenigwr."
Ymhlith y pum arweinydd eleni, mae radiograffydd, deintydd, dau athro a swyddog mudiad gwirfoddoli.
Arweinwyr FFIT Cymru 3: Ruth Evans, Kevin Jones, Elen Rowlands, Iestyn Owen-Hopkins a Rhiannon Harrison.
Y pump arweinydd ar gyfer y gyfres eleni yw:
Kevin Jones, 53, o Rhuthun; Ruth Evans, 45, o Lanllwni; Elen Rowlands, 23, o Rhuthun; Iestyn Owen-Hopkins, 27, o Gaernarfon yn wreiddiol ond nawr yn byw yn Llanrhymni a Rhiannon Harrison, 28, o Aberystwyth.
Dywedodd Rae Carpenter: "Mae'n hollol wych fod y gyfres yma yn mynd i allu helpu nid yn unig y pum Arweinydd - ond Cymru gyfan. Mae angen cynnig cyfres fel hyn ar yr adeg yma i wylwyr S4C fwy nag erioed."
Bydd dau math o bodlediad Soffa i 5k FFIT Cymru, sy'n cael ei leisio gan Rae Carpenter, ar gael i'w lawrlwytho gan gynnwys fersiwn newydd ar gyfer dysgwyr tra bod holl gynlluniau ymarfer corff a chynlluniau bwyd yr arweinwyr i'w gael ar wefan FFIT Cymru, www.s4c.cymru/ffitcymru.
Yn ogystal, eleni mae Rae yn cynnal sesiynau ffitrwydd dyddiol yn ystod yr wythnos, ar gyfer y teulu cyfan wrth hunan ynysu adref.
I wylio nhw, ewch i www.youtube.com/ffitcymru Ar gyfer y newyddion diweddaraf a chynnwys ychwanegol o'r gyfres, dilynwch @ffitcymru ar Facebook, Twitter ac Instagram.
FFIT Cymru
Nos Fawrth 7 Ebrill, 9.00
Isdeitlau Saesneg
Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C
Gwybodaeth am yr Arweinwyr
Kevin Jones, 53, o Rhuthun.
Mae Kevin yn ddyn prysur. Yn dad i dri o blant a llys dad i bump, mae Kevin yn gweithio fel radiograffydd ac yn arweinydd gwasanaethau Meddygol Prydain ac Iwerddon ers 2001. Mae Kevin yn teithio lot ar gyfer ei swydd, ac yn cyfaddef bod ganddo arferion gwael o fwyta siocled a byrbrydau eraill wrth iddo yrru. Mae 'Kev Mawr', fel mae'n cael ei adnabod, yn byw gyda type 2 diabetes ac yn benderfynol o ddangos i filoedd o bobl sy'n ddiabetig bod modd i guro'r cyflwr drwy fod yn heini.
Ruth Evans, 45, o Lanllwni
Yn fam i dair merch yn eu harddegau, mae Ruth yn gweithio fel Swyddog Gwirfoddoli i Fudiad yng Ngheredigion, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddoli Ceredigion (CAVO). Mi fuasai Ruth yn hoffi gallu mynd ar wyliau i rywle poeth gyda'r merched un diwrnod, ond ar hyn o bryd, tydi hi ddim yn teimlo'n ddigon cyfforddus i wisgo gwisg nofio ar draeth. Mae Ruth wedi bod yn sengl ers naw mlynedd ers ysgaru, ac mae ei ffrindiau a'i chwaer yn eu hannog i fynd ar wefannau dating i geisio canfod partner. Ond tydi Ruth ddim yn teimlo'n ddigon hyderus i wneud hynny ar hyn o bryd.
Elen Rowlands, 23, o Ruthun
Mae Elen wedi bod yn gweithio fel deintydd ers mis Medi ar ôl astudio ym Mhrifysgol Birmingham, ac yn treulio cyfnodau hir yn eistedd i lawr fel rhan o'i swydd. Er ei bod yn lysieuydd, mae Elen yn cyfaddef ei bod hi ddim yn bwyta'n dda ac yn bwyta gormod o snacs yn ei char, ble mae hi'n cuddio siocled a phacedi o Pringles. Ar hyn o bryd, mae Elen yn dweud ei bod yn teimlo fel y 'fat friend' pan mae hi allan gyda'i ffrindiau, ac mae hynny'n gwneud hi'n llai hyderus. Y nod i Elen yw i ad-ennill hyder a cholli ychydig o bwysau cyn iddi symud i Awstralia ar ddiwedd y flwyddyn.
Iestyn Owen-Hopkins, 27, o Gaernarfon yn wreiddiol ond nawr yn byw yn Llanrhymni
Mae Iestyn yn gweithio fel athro llawn amser ac yn rhedeg busnes canhwyllau. Mae Iestyn wedi colli pwysau yn y gorffennol ond heb lwyddo i gadw'r pwysau i ffwrdd. Un tro, fe gollodd Iestyn 8 stôn mewn chwe mîs wrth baratoi am Marathon Llundain, ac mi gollodd bwysau sylweddol cyn iddo briodi ei ŵr, Emyr. Bellach, mae Iestyn eisiau canfod cynllun y byddai yn sticio gyda yn yr hir dymor. Yn bennaf oll, mae Iestyn eisiau cyngor ar sut i reoli maint ei brydau, dysgu sut i fwynhau ymarfer corff, ac eisiau help seicolegol i helpu deall pam ei fod yn gorfwyta a methu sticio i unrhyw ddiet.
Rhiannon Harrison, 28, o Aberystwyth
Yn fam i ddau o blant ifanc, mae Rhiannon yn gweithio fel athrawes llanw ond ar gyfnod mamolaeth ar hyn o bryd. Mae hi hefyd yn rhedeg cwmni sy'n gwerthu brownies siocled, o'r enw Pwdin. Mae Rhiannon yn benderfynol o golli pwysau cyn dathlu ei phen-blwydd yn 30 blwyddyn nesaf, ac mae ei phartner, Gethin, hefyd eisiau colli pwysau ac yn bwriadu dilyn y cynllun hefyd. Mae Rhiannon yn gobeithio cael swydd fel athrawes llawn amser ym mis Medi, ac yn credu byddai colli pwysau yn helpu rhoi'r hyder iddi wneud hynny.