‘Fydd hi ddim yn dywyll am byth’ – Neges y Pasg gan Esgob Bangor
10 Ebrill 2020
Bydd y Gwir Barchedig Andy John, Esgob Bangor yn annerch y genedl ar ddydd Gwener y Groglith, gyda neges am y cyfnod cythryblus sydd ohoni.
Mi fydd yn talu teyrnged i'r rhai sydd wedi ymateb yn ddewr, ac sy'n mynd i'r afael â'r heriau sy'n ein wynebu ni.
Dywed yn ei neges: "Mae'n diolch ni'n fawr i staff y Gwasanaeth Iechyd i weithwyr iechyd a darparwyr gofal, ac i'r miloedd sydd wedi gwirfoddoli."
Bydd ei anerchiad yn cael ei ddarlledu nos Wener, 10 Ebrill, dydd Gwener y Groglith am 7.45 ar S4C.
Calon neges y Pasg, yn ôl y Gwir Barchedig Andy John, yw gweledigaeth o fyd ar ei newydd wedd. Byd newydd llawn addewid a chariad sydd wrth wraidd yr atgyfodiad. Mae gwir neges y Pasg mor berthnasol ag erioed, wrth i'r Gwir Barchedig ein hargyhoeddi bod cyfrifoldeb arnom oll i ymroi i greu ffordd newydd o fyw yn sgil y coronafeirws.
"Rydym ni gyd yn profi effeithiau'r coronafeirws yn ein bywydau," dywed, ond mae Andy John hefyd yn gweld cyfle ynghanol hyn i gyd. "Un o'r pethau trawiadol am y ffordd ryfedd, newydd hon o fyw yw ei fod wedi esgor ar ambell beth annisgwyl. Galwad ffôn gan rywun fu'n ddieithryn am flynyddoedd, yn wên gynnes ar draws y stryd wrth fynd am dro.
"Fe all y distawrwydd ei hun, o'i gofleidio yn hytrach na'i ofni, agor y drws i brofiadau newydd, dyfnach. Pan fyddwn ni yng nghanol unrhyw argyfwng, mae'n anodd gweld tu hwnt i orwel ein gofid, ond fydd hi ddim yn dywyll am byth."
Etholwyd Andy John yn Esgob Bangor yn 2008, a thu hwnt i astudiaethau Beiblaidd, mae'n mwynhau cerddoriaeth - sy'n amrywio o Arvo Pärt i Led Zeppelin - celfyddyd, a chwaraeon. Mae wedi rhedeg nifer o farathonau, gan gynnwys marathon Eryri sawl gwaith.
Gwyliwch yr anerchiad cyfan nos Wener, dydd Gwener y Groglith, am 7.45 ar S4C.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?