23 Ebrill 2020
Bydd S4C yn dychwelyd i'r archif i roi cyfle arall i wylwyr fwynhau sawl achlysur gofiadwy yn hanes chwaraeon Cymru.
Wrth i'r pandemig COVID-19 orfodi gwaharddiad i'r tymor chwaraeon am y tro, bydd y sianel genedlaethol yn llenwi'r bwlch chwaraeon gydag ail-ddarllediadau o gemau rygbi a phêl-droed, rhaglenni dogfen chwaraeon a chyfresi sy'n edrych ar y datblygiadau diweddaraf ym myd y campau.
Bydd detholiad o gemau cofiadwy y tîm rygbi cenedlaethol a'r tîm Dan 20 i'w weld yn y gyfres Dyddiau Da. Bydd y gyfres yn canolbwyntio ar gemau o dair gystadleuaeth wahanol:
- Y Pump a'r Chwe Gwlad - Pedwar rhaglen, yn cychwyn ar nos Wener 8 Mai am 9.00, sy'n edrych yn ôl dros Loegr v Cymru 1988, Cymru v Ffrainc 1994, Cymru v Lloegr 2005 a Chymru v Lloegr 2013, yng nghwmni rhai o'r sêr a chwaraeodd yn y gemau.
- Cwpan Rygbi'r Byd - Dwy raglen yn bwrw golwg dros bedwar gêm glasur; Cymru v Seland Newydd 2003 a Chymru v Ffrainc 2011, Cymru v Lloegr 2015 a Chymru v Awstralia 2019.
- Pencampwriaeth Rygbi'r Byd Dan 20 – Yn cychwyn ar nos Lun 4 Mai am 10.00, golwg dros chwe gêm gofiadwy i dîm Cymru, o'r gystadleuaeth gyntaf yn 2008 i'r un ddiweddaraf y llynedd, gan gynnwys buddugoliaeth Cymru dros Seland Newydd yn 2012.
Beth sy'n mynd ymlaen yn y byd rygbi yn ystod y pandemig? A sut mae chwaraewyr a chefnogwyr yn cadw eu hunain yn brysur yn ystod y cyfnod clo?
Yn y Tŷ Rygbi, sy'n cychwyn ar nos Lun 27 Ebrill am 9.30, bydd Rhys ap William yn sgwrsio gyda sawl enw mawr yn y byd rygbi, gan gynnwys Mike Phillips, Shane Williams a Sioned Harries, i gael eu barn ar y newyddion diweddaraf ac i glywed rhai o'u hanesion lliwgar nhw. Bydd digon o eitemau ysgafn hefyd i ddiddanu'r gymuned rygbi.
Bydd Clasuron Cwpan Ewrop, sy'n cychwyn ar nos Sadwrn 30 Mai, yn edrych dros rhai o glasuron rhanbarthau Cymru yng nghystadleuaeth Cwpan Pencampwyr Heineken Ewrop - Toulouse v Scarlets 2006, Gleision Caerdydd v Caerlŷr 2009 a Gleision Caerdydd v Toulon 2010.
Mae'r Clasur Rygbi Bermuda yn gystadleuaeth chwedlonol ble mae cyn chwaraewyr proffesiynol yn mynd benben âi gilydd ar yr ynys yn y Caribî.
Bydd Clasuron Bermuda, sy'n cychwyn ar nos Fercher 8 Mehefin am 9.30, yn dangos uchafbwyntiau o'r gystadleuaeth dros y blynyddoedd diwethaf.
Ymysg y Cymry i gynrychioli tîm y Llewod yn y gystadleuaeth, mae Dafydd James, Chris Wyatt, Shane Williams a Ceri Sweeney, ac yn y gyfres hon, cawn weld sut maen nhw'n cymharu gyda chwaraewyr o saith gwlad arall.
Ymysg y rhaglenni dogfen unigol sy'n cael eu dangos dros y misoedd nesaf, mae:
Y Gamp Lawn 2019 - cyfle i fwynhau ymgyrch hynod lwyddiannus tîm Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019;
Cofio Dydd y Farn – Dydd Gwener 1 Mai am 9.00 - rhaglen sy'n dangos y gorau o Dydd y Farn dros y blynyddoedd, o safbwynt pob un o ranbarthau rygbi Cymru;
Syr Gareth Edwards – Dydd Gwener 5 Mehefin am 9.00 - golwg arall dros yrfa'r mewnwr athrylithgar, a;
Clasuron y Clybiau – Dydd Sadwrn 23 Mai am 9.00 - rhaglen sy'n ail-ddangos atgofion arbennig o gemau rownd terfynol y cwpanau cenedlaethol, y Gwpan, Y Plât a'r Bowlen.
Bydd Sgorio Rhyngwladol yn dangos detholiad o gemau mwyaf cofiadwy tîm Cymru dros y dwy flynedd diwethaf.
Bydd cyfle i gefnogwyr tîm cenedlaethol Cymru i hel atgofion melys o'r ddwy flynedd diwethaf wrth i Sgorio Rhyngwladol ddangos detholiad o gemau mwyaf cofiadwy'r cyfnod yn eu cyfarwydd.
Cychwynnodd y gyfres gyda Chymru v Gweriniaeth Iwerddon 2018, sydd ar gael i'w wylio nawr ar S4C Clic.
O nos Sadwrn 25 Ebrill ymlaen am 5.30, mi fydd y gyfres yn parhau gyda ail-ddangosiadau o: Slofacia v Cymru 2019, Cymru v Croatia 2019, Azerbaijan v Cymru 2019 a Chymru v Hwngari 2019.
Bydd Sgorio hefyd yn dangos Clasuron Uwch Gynghrair Cymru, cyfres o gemau cofiadwy o'r gynghrair a Chwpan Cymru.
Bydd y gyfres, sy'n dechrau ar ddydd Sul 10 Mai, yn cynnwys Bangor v Y Seintiau Newydd 2010, Caernarfon v Y Seintiau Newydd 2014 ac Y Bala v Y Seintiau Newydd 2017.
Bydd Geraint Thomas: Vive le Tour, yn rhoi cyfle i wylwyr fwynhau'r stori tu ôl i lwyddiant bythgofiadwy'r Cymro yn y ras feics Tour de France yn 2018, am 9.00 ar nos Wener 24 Ebrill.
Bydd cefnogwyr pêl-rwyd hefyd yn gallu mwynhau uchafbwyntiau o gemau tîm Cymru yng nghyfres yr haf 2019, yn Pêl-Rwyd: Uchafbwyntiau Cyfres Cymru 2019, ar nos Fercher 20 Mai.