29 Ebrill 2020
Bydd rhieni dros Gymru gyfan a thu hwnt yn falch o glywed bod modd iddynt ddiddori'r plant drwy fynd am antur gyda Cyw a'i ffrindiau ar unrhyw adeg o'r dydd, diolch i ap newydd gan S4C.
Mae Antur Cyw yn lle i blant ddysgu, chwarae a chael hwyl. Wrth helpu Cyw i gwblhau geiriau yn y ffair, mynd ar daith ar drên sillafu, cyfansoddi cerddoriaeth a chyfri ar y fferm, mae Antur Cyw yn cynnig cyfle i blant fod yn greadigol yn ogystal â dysgu mewn byd newydd hapus a hudolus.
Trwy gyfuno cynnwys apiau blaenorol Cyw, bydd yr ap newydd yn gwneud bywyd yn haws trwy gynnig popeth mewn un lle.
Un o'r cyntaf i ddefnyddio'r ap oedd Megan Alaw o Gaerfyrddin, sy'n bum mlwydd oed.
"Y peth rwy'n hoffi orau am Antur Cyw yw gwneud geiriau ar drên Jangl a dyfalu beth yw'r llythrennau coll.
"Rwy' wedi cael nhw i gyd yn gywir hyd yn hyn, ond mae'n mynd yn fwy anodd bob tro felly rwy' am ddal i chwarae. Rwy'n edrych mlaen i ddweud wrth fy ffrindiau amdano pan fydda i nôl yn yr ysgol."
Mae Comisiynydd Cynnwys Plant ac Addysg S4C, Sioned Wyn Roberts, yn ffyddiog y bydd yr ap o ddiddordeb i rieni sy'n gwneud defnydd o Ysgol Cyw.
"Pecyn o raglenni addysgiadol i blant ifanc yw Ysgol Cyw, a lansiwyd mewn ymateb i'r ysgolion yn cau. Mae'r pecyn yn cynnwys cyfresi teledu S4C Cyw a Stwnsh yn ogystal â deunydd digidol ac apiau i helpu rhieni sydd adref gyda phlant ifanc ac yn chwilio am ddeunydd o safon i'w diddanu yn ogystal â'u haddysgu."
"Mae na gynnydd sylweddol wedi bod ym mhoblogrwydd Cyw ar draws ein holl lwyfannau ers y 'lockdown'.
"Mae cyfartaledd gwylwyr rhaglenni plant S4C ar y teledu fyny 182%. Mae'r oriau gwylio arlein wedi cynyddu hefyd gyda oriau gwylio S4C Clic fyny 59% ac iPlayer fyny 36%."
Meddai Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Arlein S4C:
"Rydym wedi bod yn gweithio ar Antur Cyw gyda TinInt a Chanolfan Peniarth ers cyn y Nadolig, a gan fod ffigyrau gwylio Cyw wedi ffrwydro yn y mis diwethaf, mae'r lansiad yn amserol iawn.
"Gyda sesiynau Cyw ar YouTube fyny 23% wrth gymharu mis Chwefror a mis Mawrth, mae'n amlwg iawn fod mwy a mwy o bobl yn troi at Cyw.
"Mae'r cynnwys difyr a rhyngweithiol yn atyniad i blant, ac, mewn nifer o gartrefi mae'n golygu gall Mam neu Dad gario mlaen gyda'u gwaith am gyfnod mewn tawelwch."
Mae Antur Cyw ar gael ar iOS, Android ac ar Amazon ac fel pob cynnwys S4C arall mae ar gael am ddim.
iOS: https://apps.apple.com/gb/app/antur-cyw/id1491351054
Android: https://play.google.com/store/apps/details?id=cymru.s4c.anturcyw.play
Amazon: https://www.amazon.co.uk/S4C-Antur-Cyw/dp/B086WF2N1M/
Am fwy o wybodaeth, ymwelwch a dudalen Oedolion Cyw.