Mae S4C yn cynnal fforwm ar lein i drafod yr heriau sy'n wynebu'r sector ddrama yng Nghymru yn sgil effaith coronafeirws a'r ansicrwydd mae'r diwydiant teledu yn ei wynebu ar hyn o bryd.
Mae'r sianel yn gwahodd cynhyrchwyr drama i rannu profiadau, gwyntyllu gofidion, trafod disgwyliadau a chynnig syniadau gyda chyd gynhyrchwyr a swyddogion S4C.
Bwriad pellach y fforwm yw trafod sut a phryd y gall y sector fynd nol i gynhyrchu.
Bydd y fforwm yn cael ei gadeirio gan Gethin Scourfield sy'n enw amlwg ym maes drama yng Nghymru.
Bydd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C a Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C hefyd wrth law i ateb cwestiynau.
Meddai Amanda Rees: "Does dim dwywaith fod drama yn un o'r genres sydd wedi ei effeithio fwyaf yn ystod y cyfnod hwn.
"Yn anffodus doedd dim dewis gan nifer o'r cynyrchiadau i ohirio ffilmio am y tro.
"Fodd bynnag rydym nawr yn gweld cyfle i drafod a rhannu syniadau am ffyrdd newydd a chreadigol o weithio a bydd y fforwm hwn yn gyfle i arbenigwyr y maes ddod ynghyd i drafod."
Ymysg rhai fydd yn mynychu fydd cynhyrchwyr Pobol y Cwm, Rownd a Rownd, Un Bore Mercher, Craith a 35 Diwrnod
Bydd y fforwm yn cael ei gynnal ddydd Gwener 15 Mai am 13.30.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?