15 Mehefin 2020
Bydd S4C yn gweithio gyda nifer o elusennau dros y misoedd nesaf er mwyn darlledu hysbysebion i elusennau a sefydliadau sy'n gwneud gwaith arwrol yn ystod argyfwng Covid.
Gwahoddodd y sianel geisiadau gan elusennau a sefydliadau sydd wedi lleoli neu'n gweithredu ar lefel Cymreig ac yn cynnig cymorth i bobl yn ystod yr argyfwng.
Penderfynodd S4C hefyd gynnig cyfraddau gostyngedig i gwmnïau yng Nghymru er mwyn hyrwyddo eu hymdrechion Covid.
Ac er mwyn annog hysbysebu yn y Gymraeg mae'r sianel wedi penderfynu ymestyn ei gymhorthdal ar gyfer hysbysebion Cymraeg i'r cynllun.
Bydd yr hysbysebion cyntaf o dan y cynllun yn cael eu darlledu yr wythnos hon gan gynnwys elusen Shelter Cymru sy'n cynnig cymorth i'r digartref ac Amser i Newid Cymru sy'n rhedeg ymgyrch am iechyd meddwl dynion.
Meddai Jennie Bibbings, Rheolwr Ymgyrchoedd Shelter Cymru: "Mae'n wych bod S4C yn cydnabod pwysigrwydd gwaith elusennau yn ystod y pandemig hwn.
"Rydym yn gwybod bod pobl yng Nghymru yn poeni am eu sefyllfa o ran tai a chartrefedd mewn cyfnod mor anodd, heb wybod at bwy i droi am gymorth. ]
"Felly rydym yn ddiolchgar i S4C am y cyfle i roi cyngor a chefnogaeth hollbwysig i'r bobl hynny sydd angen ein help i sicrhau eu bod yn cael aros yn ddiogel yn eu cartrefi."
Meddai June Jones o Amser i Newid Cymru: "Mae Amser i Newid Cymru yn hynod ddiolchgar i S4C am y cyfle hysbysebu hwn am ddim yn ystod Wythnos Iechyd Dynion.
"Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg ond rydyn ni'n gwybod bod dynion yn gyffredinol yn ei chael hi'n anoddach siarad am y pwnc hwn.
"Nod yr ymgyrch #MaeSiaradYnHollBwysig yw annog dynion yng Nghymru i siarad am eu hiechyd meddwl heb ofni cael eu barnu.
"Mae'n hen bryd i ni ofyn y cwestiwn am iechyd meddwl dynion, 'Wyt ti'n iawn?'."
Meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: "Ry'n ni'n falch iawn ein bod yn gallu cefnogi gwaith da y trydydd sector a sefydliadau sydd wedi eu heffeithio fwyaf gyda'r argyfwng hwn.
"Mae 15 elusen hyd yn hyn yn elwa o gael gofod hysbysebu am ddim ar ein sianel, ac mae'n braf gallu arddangos gwaith allweddol amrediad eang o elusennau drwy hysbysebion ar S4C."
Yr elusennau eraill fydd yn derbyn gofod hysbysebu yn ystod y misoedd nesaf yw Tŷ Hafan, GISDA, Action for Elders, The Autism Directory, Bullies Out, Tenovus, Adferiad Recovery, WCADA, Hourglass Cymru, St John's Cymru, WCVA, Awyr Las ac Ambiwlans Awyr Cymru.