25 Mehefin 2020
Dros misoedd dwetha', mae'r enfys wedi dod yn symbol holl-bwysig o obaith ac o ddiolch.
Maent i'w gweld mewn ffenestri ar hyd a lled y wlad fel arwydd o'n gwerthfawrogiad i'r rhai sydd wedi gweithio'n ddi-flino i'n diogelu trwy gyfnod Cofid-19.
Ac mewn dyddiau tywyll, mae gweithred garedig yn holl-bwysig i oleuo bywydau gweithwyr allweddol a phawb sydd wedi dioddef oherwydd y coronafeirws.
Felly mawr oedd llawenydd gweithwyr Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli, wrth ddarganfod fod gwely blodau ar ffurf lliwiau'r enfys wedi ymddangos ar dir yr ysbyty yn ddiweddar.
"Mae'r enfys flodau yn wych ac yn werth ei gweld. O ni'n teimlo yn reit emosiynol pan welais hi gyntaf. Rwyf wedi dangos lluniau i'r cleifion sydd ar Ward Llynfor, mae nhw hefyd yn ddiolchgar iawn.
"Roedd wir yn braf gweld gwen ar eu gwynebau." Meddai Rhona Jones, Metron yr Ysbyty.
Bydd yr enfys a'r gwelyau blodau naill ochr iddi yn symbol barhaol o ymroddiad gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd, sydd wedi bod yn rhan o drawsnewid yr ysbyty gymunedol i ganolfan trin cleifion Cofid-19.
"Mi wnawn yn siwr fod ein enfys arbennig yn cael dŵr yn ddyddiol i'w gadw yn lliwgar ac yn fyw. Mawr yw ein diolch i griw Garddio a Mwy am y weithred anhygoel yma" ychwanegodd Rhona.
Meinir Gwilym, cyflwynydd a chynhyrchydd, y gyfres deledu Garddio a Mwy sy'n egluro sut daeth y syniad yn fyw.
"Cefais i â fy nghyd-gyflwynwyr, Sioned ac Iwan, andros o siom fod y clo mawr wedi rhoi stop ar ein cynlluniau i weithio ar erddi'r ysbyty fel rhan o'r gyfres newydd.
"Felly trwy sgwrsio, cawsom y syniad o wneud rhywbeth bach i ddweud diolch i'r staff arbennig am eu cyfraniad i'r gymuned yn y cyfnod cythryblus yma.
"I wneud yn siwr fod yr arddangosfa flodau yn cynrychioli holl liwiau'r enfys, bu'n rhaid gwneud tipyn o waith trefnu. Roedd rhaid i'r gwelyau gorffenedig fod yn lliwgar, yn llawen ac yn tipyn o sioe.
"Gan fod y canolfannau garddio wedi gorfod cau ar yr union adeg y bydden nhw fel arfer yn archebu a pharatoi am werthiant mawr, roedd hi'n dipyn o her cael yr holl blanhigion.
"Felly erbyn diwrnod plannu'r blodau, roedd y gwaith caletaf o gael blodau yn y lliwiau iawn i gyd wedi ei wneud!
"Roedd hi'n fraint i Sioned a finnau gael creu'r ardd. Gan fod yr enfys flodau wrth fynedfa'r ysbyty, mae'n werth yr ymdrech gwybod y bydd yno i groesawu pawb sy'n cyrraedd, ac i roi gwên ar wynebau'r staff wrth iddynt gyrraedd am eu shifft.
"Bydd hefyd yno i ddymuno'n dda i'r cleifion sydd wedi gwella digon i adael gofal yr ysbyty – mae rhai wedi bod yno ers amser maith."
Bydd y bennod arbennig yma o Garddio a Mwy yn bwrw'r sgrin am 8.25 nos Lun 29 Mehefin.