28 Awst 2020
Mae sawl peth wedi newid dros y deugain mlynedd diwethaf – o bedair sianel i gannoedd, o deledu bocs i deledu clyfar - ond un peth sydd heb newid ers sefydlu ym 1982 yw angerdd S4C dros y Gymraeg. Fel yr unig wasanaeth teledu Cymraeg, mae'r iaith yn greiddiol i fodolaeth S4C ac yn ganolbwynt allweddol i holl ddarpariaeth S4C.
Wrth i S4C gyhoeddi Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg o'r flwyddyn ariannol hyd 31 Mawrth 2020, mae S4C yn falch o'i lle a'i dyletswydd dros yr iaith, ac yn parhau i gefnogi'r iaith ym mhob ffordd posib, fel cyflogwr ac wrth ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd.
Nawr fwy nag erioed wrth gynorthwyo i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050, mae S4C wedi ymrwymo i gefnogi defnydd a datblygiad yr iaith Gymraeg fel iaith hyfyw yn y gymdeithas ac yn ddigidol, yn ôl Prif Weithredwr S4C, Owen Evans.
"Mae 'na le i S4C o fewn ein cymdeithas, ar lawr gwlad ac yn ddigidol, wrth i ni anelu tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg. Ry'n ni'n parhau i arbrofi ac arloesi gyda syniadau newydd, ac o hyd yn ceisio canfod y peth nesa' i ddatblygu. Mae'r byd o'n cwmpas ni yn newid – a hynny'n sydyn iawn, fel mae 2020 wedi ddangos i ni! Ond mae gwerthoedd S4C yr un peth ag erioed – y Gymraeg sydd wrth wraidd yr hyn ni'n wneud."
Owen Evans, Prif Weithredwr S4C
Dros y flwyddyn, mae S4C wedi arloesi ar lwyfannau newydd i gynnwys y Gymraeg, ac yn benodol ar lwyfannau digidol.
Cyrhaeddodd y gwasanaeth i bobl ifanc, Hansh, garreg filltir anhygoel ym mis Mawrth 2020 gan ddenu miliwn o sesiynau gwylio mewn mis ar draws Twitter, Facebook ac YouTube am y tro cyntaf erioed.
Hefyd, yn ystod y flwyddyn dan sylw, denodd chwaraewr S4C Clic 100,000 o danysgrifwyr a hynny mewn ychydig dros chwe mis. Ers hynny, mae S4C hefyd wedi datblygu sgil Alexa Cymraeg, sy'n gam arloesol a chyffrous i'r iaith.
Ychwanegodd Owen Evans: "Mae S4C yn nesáu at ben-blwydd pwysig iawn, deugain oed! Dros y deugain mlynedd diwethaf, mae S4C wedi cynnig platfform i ddefnyddio a datblygu'r iaith Gymraeg. Ni wedi gweld Cyw yn dod yn ffrind i deuluoedd ifanc ar draws Cymru, ac yn fwy diweddar, ein gwasanaeth digidol Hansh yn camu i'r adwy wrth ddenu gwylwyr ifanc i fwynhau a gwylio'n y Gymraeg. Ond ar ben hynny, mae S4C yma i bawb o bob oed, a fi ffili aros i weld beth arall ddaw wrth i S4C barhau i gefnogi'r iaith ym mhob ffordd posib."
Mae Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg ar gael ar wefan S4C.