Mae S4C yn falch o gyhoeddi y bydd Alex Humphreys yn ymuno gyda chriw tywydd y sianel.
Bydd Alex yn ymuno gyda Steffan Griffiths, Chris Jones a Megan Williams wrth i wasanaeth tywydd y sianel gael ei ddarlledu fel rhan o wasanaeth Newyddion S4C a hynny o adeilad y BBC yn Sgwâr Canolog, Caerdydd ddiwedd y mis.
Mae gan Alex sy'n wreiddiol o Sir y Fflint brofiad helaeth ym maes darlledu ac mae'n wyneb cyfarwydd fel cyflwynydd rhaglen newyddion i blant, Ffeil ar S4C. Mae Alex hefyd wedi bod yn gweithio ar raglenni Newsround i CBBC a Wales Live ar BBC 1.
"Mae'r swydd yma yn sicr yn her newydd i mi" meddai Alex. "Wedi dros chwe mlynedd o gyflwyno rhaglenni plant dwi'n teimlo'n barod am sialens newydd. Dwi wrth fy modd yn cyflwyno ac yn falch o allu parhau i wneud hynny mewn maes gwbl newydd. Dwi'n ddiolchgar iawn o'r cyfle."
Meddai Geraint Evans, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C:
"Rydyn ni'n falch iawn o groesawu Alex i dîm tywydd S4C. Bydd ei chefndir newyddiadurol a'i phrofiad cyflwyno yn werthfawr tu hwnt wrth i ni uno y gwasanaeth tywydd o fewn ein rhaglenni newyddion. Gyda'r tywydd yn aml yn dod yn fwy o stori yn ei hun ein gobaith yw defnyddio arbenigedd y cyflwynwyr tywydd yn rhan o'r brif raglen newyddion o'r stiwdio."
Meddai Sharen Griffith, Golygydd Newyddion S4C
"Ar drothwy cyfnod cyffrous i griw Newyddion, wrth i ni baratoi i ddarlledu o'r Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd, braf yw cael croesawu tîm y tywydd i'n plith. Fe fydd y stiwdio newydd yn cynnig technoleg ac adnoddau arbennig a bydd modd i ni weu'r newyddion a'r tywydd ynghyd yn ein bwletinau gan sicrhau ein bod yn dod â'r sefyllfa ddiweddara' i'r gynulleidfa."
DIWEDD
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?