23 Medi 2020
Bydd y Giro d'Italia 2020 yn cychwyn yn Sicily fis nesaf a bydd S4C yn dangos y ras yn ei gyfanrwydd gyda chymalau byw ac uchafbwyntiau bob nos.
Fe fydd y tîm Seiclo yn dychwelyd i ddarlledu cymalau byw dyddiol yn ogystal a rhaglen hanner awr bob nos yn dangos uchafbwyntiau o gymal y dydd.
Rhodri Gomer sydd yn arwain y tîm cyflwyno, gyda'r beiciwr tîm Ribble Weldtite, Gruff Lewis, Rheinallt a Peredur ap Gwynedd, Dewi Owen, Robyn Davies ac Alun Wyn Bevan yn ymuno â Wyn Gruffydd, John Hardy a Gareth Rhys Owen yn y pwynt sylwebu.
Sunset + Vine Cymru fydd yn cynhyrchu holl ddarllediadau Giro d'Italia 2020 ar ran S4C.
Bydd y cyfan yn dechrau gyda darllediad byw o'r cymal gyntaf, am 1.00pm ar ddydd Sadwrn 3 Hydref.
DIWEDD
S4C – Amserlen Darlledu Giro d'Italia 2020
Cymalau Byw: Sianel deledu S4C, S4C Clic (s4c.cymru/clic) ac ar dudalen Facebook Live S4C Chwaraeon (facebook.com/s4cchwaraeon).
Darllediadau byw yn cychwyn am 1pm bob dydd.
*Bydd cymal 9 yn cael ei dangos ar-lein yn unig*
Uchafbwyntiau: Sianel deledu S4C, S4C Clic (s4c.cymru/clic).
Cymal 1 - 3 Hydref - Byw: 1.00pm, Uchafbwyntiau: 9.30pm
Cymal 2 - 4 Hydref - Byw: 1.00pm, Uchafbwyntiau: 9.30pm
Cymal 3 - 5 Hydref - Byw: 1.00pm, Uchafbwyntiau: 9.30pm
Cymal 4 - 6 Hydref - Byw: 1.00pm, Uchafbwyntiau: 9.30pm
Cymal 5 - 7 Hydref - Byw: 1.00pm, Uchafbwyntiau: 9.30pm
Cymal 6 - 8 Hydref - Byw: 1.00pm, Uchafbwyntiau: 10.15pm
Cymal 7 - 9 Hydref - Byw: 1.00pm, Uchafbwyntiau: 10.00pm
Cymal 8 - 10 Hydref - Byw: 1.00pm, Uchafbwyntiau: 9.45pm
Cymal 9 - 11 Hydref - Byw: 1.00pm (Ar-lein yn unig), Uchafbwyntiau: 9.30pm
Diwrnod Gorffwys - 12 Hydref
Cymal 10 - 13 Hydref - Byw: 1.00pm, Uchafbwyntiau: 9.30pm
Cymal 11 - 14 Hydref - Byw: 1.00pm, Uchafbwyntiau: 10.35pm
Cymal 12 - 15 Hydref - Byw: 1.00pm, Uchafbwyntiau: 9.30pm
Cymal 13 - 16 Hydref - Byw: 1.00pm, Uchafbwyntiau: 9.30pm
Cymal 14 - 17 Hydref - Byw: 1.00pm, Uchafbwyntiau: 9.30pm
Cymal 15 - 18 Hydref - Byw: 1.00pm, Uchafbwyntiau: 9.30pm
Diwrnod Gorffwys - 19 Hydref
Cymal 16 - 20 Hydref - Byw: 1.00pm, Uchafbwyntiau: 10.00pm
Cymal 17 - 21 Hydref - Byw: 1.00pm, Uchafbwyntiau: 10.00pm
Cymal 18 - 22 Hydref - Byw: 1.00pm, Uchafbwyntiau: 9.30pm 1.00pm
Cymal 19 - 23 Hydref - Byw: 1.00pm, Uchafbwyntiau: 10.15pm
Cymal 20 - 24 Hydref - Byw: 1.00pm, Uchafbwyntiau: 10.15pm
Cymal 21 - 25 Hydref - Byw: 1.00pm, Uchafbwyntiau: 10.00pm