Prif Weithredwr S4C yn cysylltu â gwylwyr y sianel wrth i gyhoeddiad am gyfnod clo arall ddod i rym
20 Hydref 2020
Mae Prif Weithredwr S4C, Owen Evans wedi anfon llythyr brynhawn Llun 19 Hydref at wylwyr y sianel rai oriau ar ôl cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am gyfnod clo arall.
Yn ei lythyr a anfonwyd ar e-bost at holl danysgrifwyr S4C Clic, eglurodd Owen Evans fod gan S4C rôl bwysig i chwarae wrth ddod â'r newyddion diweddaraf i'r gwylwyr.
Ychwanegodd fod S4C wedi buddsoddi yn ei wasanaeth newyddion ac erbyn hyn mae'r brif raglen am 7.30 yr hwyr ar ei newydd wedd ac yn ei stiwdio newydd.
Soniodd hefyd fod S4C ynghanol cynlluniau i ddatblygu gwasanaeth digidol newydd fydd yn dod â'r newyddion diweddaraf, unrhyw amser o'r dydd.
Dywedodd Owen Evans hefyd fod gan S4C rôl i chwarae wrth ddiddanu'r gynulleidfa a bod nifer o gyfresi a gomisiynwyd yn ystod y cyfnod clo nôl am gyfres arall gan gynnwys Sgwrs Dan y Lloer, Y Tŷ Rygbi, Adre a Y Sioe Fwyd.
"2020 – y flwyddyn na fyddwn ni byth yn ei anghofio." meddai Owen Evans yn ei lythyr. "Wrth i ni wynebu cyfnod clo arall bydd S4C yn gwmni ac yn gysur i chi drwy'r cyfan."
"Mae rhaglenni materion cyfoes hefyd yn bwysicach nag erioed o'r blaen hefyd a mae cyfresi newydd i Y Byd ar Bedwar ac Y Byd yn ei Le ar y ffordd. "
"Ac ry'n ni gyd angen codi ein calonnau dros fisoedd oer y gaeaf ac mae ein cyfres gomedi newydd, Rybish yn siŵr o wneud hynny!
Wrth gloi, eglurodd Owen Evans fod S4C Clic wedi datblygu yn helaeth ac y bydd mwy o Bocs Sets ar gyfer y gwylwyr rhwng nawr a'r Nadolig.
"Beth am wylio cyfres 1 a 2 o Un Bore Mercher, sydd newydd eu rhyddhau ar S4C Clic, cyn i;r gyfres olaf gychwyn ar 1 Tachwedd?" meddai.
"Diolch i chi gyd am gysylltu â mi gyda'ch awgrymiadau, mae'n grêt cael eich adborth a chlywed beth sy'n plesio. Diolch am eich cefnogaeth i S4C a chadwch yn ddiogel.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?