Llwyddodd S4C i ennill pum gwobr yng ngwobrau BAFTA Cymru heno, wrth i'r gwobrau gael eu cyhoeddi mewn seremoni ar-lein.
Bu dathlu mawr yng Nghaernarfon wrth i'r gyfres ddogfen bry ar y wal Ysgol Ni: Maesincla (Cwmni Darlun) gipio'r wobr Cyfres Ffeithiol Orau.
Llwyddodd cyfres boblogaidd Deian a Loli (Cwmni da) i ennill gwobr y Rhaglen Blant Orau.
Enillodd Emma Walford a Trystan Ellis Morris categori y Cyflwynydd Gorau am eu gwaith ar gyfres Prosiect Pum Mil (Boom Cymru)
Cipiodd Cyrn ar y Mississippi (Dearheart Productions) wobr y Rhaglen Adloniant Orau.
Yn ogystal llwyddodd Sion Aaron a Timothy Lyn i gipio'r wobr Cyfarwyddwr Ffeithiol Orau am eu gwaith ar y rhaglen ddogfen dwymgalon Eirlys, Dementia a Tim.
Wrth longyfarch yr enillwyr meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Ry'n ni wrth ein bodd o ennill pum gwobr BAFTA Cymru heno.
"Eleni eto mae llwyddiannau S4C yn dyst i ymroddiad a chreadigrwydd y sector.
"Mae amryw o unigolion a chwmnïau cynhyrchu talentog yn creu cynnwys o'r safon uchaf all gydio yn nychymyg y gwylwyr.
"Llongyfarchiadau mawr i'r enillwyr i gyd."
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?