S4C yn lansio tair sianel newydd i bobl ifanc ar YouTube
26 Hydref 2020
Mewn cynllun cyffrous, bydd S4C yn lansio tair sianel YouTube wedi ei anelu at y gynulleidfa 11-13 oed.
Mae naw person ifanc wedi eu dewis fel Crewyr Cynnwys, ac mi fydd y naw yn ffilmio a chynhyrchu fideos i'w uwchlwytho ar YouTube, gyda chymorth cynhyrchu gan Boom Cymru.
Mae S4C yn sefydlu'r dair sianel yma gyda thalent newydd fel ffordd o ymateb i'r newidiadau ym mhatrymau gwylio'r gynulleidfa iau.
Meddai Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Arlein S4C:
"Mae'n hollol glir bod angen i S4C a chynnwys Cymraeg fodoli ar draws llwyfannau gwahanol ac ar gyfer diddordebau gwahanol er mwyn gallu cyrraedd cynulleidfaoedd wahanol.
"Ni all un sianel deledu wneud y gwaith yma i gyd rhagor, felly mae gweld tair sianel newydd o gynnwys Cymraeg ar gyfer pobl ifanc yn ddatblygiad pwysig."
Y dair sianel yw POPT; yn trafod cerddoriaeth, y trends diweddaraf a diwylliant poblogaidd, Gemau Gamma; sianel gemau a Label Deg; yn trafod steil, harddwch, lles a meddylgarwch.
Ychwanegodd Rhodri: "Mae wedi bod mor gyffrous i weld y Crewyr Cynnwys yn mynd ati i ddechrau adeiladu eu sianeli dros yr wythnosau diwethaf, a dwi wir yn edrych ymlaen i weld y creadigrwydd yn ffynnu ar Label Deg, Gemau Gamma a POPT wrth iddyn nhw adeiladu eu dilyniant."
Bydd y sianeli'n lansio ar YouTube ar ddydd Llun, Hydref 26.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?