30 Tachwedd 2020
Bydd anrheg Nadolig cynnar yn dod i danysgrifwyr gwasanaeth ar alw S4C Clic. Wrth i gyfnod yr Adfent ddechrau ar 1 Rhagfyr bydd rhaglen newydd yn cael ei rhyddhau o'r archif yn ddyddiol hyd at 24 Rhagfyr.
Ffilm, drama, comedi, rhaglenni plant - mae'r cynnwys wedi cael eu ddewis yn ofalus er mwyn sicrhau bod rhywbeth i blesio pob aelod o'r teulu.
Dros gyfnod yr Adfent bydd tri clasur o ffilm yn cael eu rhyddhau gan gynnwys Rhosyn a Rhith - ffilm ysgafn a hwyliog sy'n serennu Dafydd Hywel fel taflunydd sinema ym mhentref un o gymoedd dirwasgedig Cymru sy'n colli ei swydd ac sy'n dod o hyd i ffordd ddyfeisgar iawn o godi arian.
Hefyd bydd cyfle i ail-wylio'r ffilm rymus Milwr Bychan sydd wedi ei lleoli yng Ngogledd Iwerddon a Nel sy'n adrodd hanes merch sy'n gwynebu cael ei symud o'i chartref teuluol gan fod ei brawd eisiau gwerthu fferm y teulu.
Mae rhywbeth i wylwyr ifanc S4C Clic sef Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs - ffilm gerddorol i'r teulu cyfan sy'n olrhain bywyd bachgen bach saith oed o'r enw Noa. Mae'r ffilm yn adrodd hanes teulu cyffredin yn ystod un gaeaf hudol wrth i fywyd Noa gael ei drawsnewid. Mae pwysigrwydd cyfeillgarwch a theulu a phŵer oesol y dychymyg wrth galon y ffilm hon.
Hefyd i blant mae hen ffefrynnau fel Siôn Blewyn Coch - animeiddiad yn seiliedig ar gymeriadau o Lyfr Mawr y Plant, sy'n adrodd hanes llwynog bach clyfar sy'n ceisio dwyn twrci Nadolig y ffermwr a'r ffilm gerddorol Y Dyn Nath Ddwyn y Dolig.
Mae ffefrynnau mwy diweddar hefyd gyda rhifyn Nadolig o Deian a Loli a Pluen Eira - ffilm arbennig i'r teulu cyfan am fachgen bach o'r enw Frank, a'i gyfeillgarwch gyda thwrci o'r enw Aden.
Bydd clasuron comedi ar gael gan gynnwys Licyris Olsorts a sawl wyneb cyfarwydd iawn hefyd, wrth i'r rhaglenni Priodas Pum Mil Dolig a Dai ar y Piste cael eu rhyddhau ar S4C Clic.
Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Mae S4C Clic wedi bod yn stori lwyddiant mewn blwyddyn anodd iawn i bawb. Rydym ni fel gwasanaeth wedi bod yn awyddus iawn i fod yna i'n gwylwyr i gynnig cymorth a chwmni trwy gyfnod Covid-19, ac mae ein llwyfan ar alw S4C Clic wedi bod yn rhan annatod o'n hymdrechion i gyrraedd cymaint o bobl a phosib.
"Mae'r ymateb wedi bod yn anhygoel ac mae niferoedd tanysgrifwyr S4C Clic nawr wedi cyrraedd dros 150,000. Mae Calendr Adfent Clic yn ffordd o ddiolch i bawb sy'n defnyddio'r gwasanaeth trwy gynnig hyd yn oed mwy o'n cynnwys o'r archif."
Felly dechreuwch ddathlu'r Wŷl - ewch i www.s4c.cymru/clic i ddarganfod pa drysorau o'r archif sydd gan S4C Clic i'w cynnig dros gyfnod yr Adfent.
Calendr Adfent S4C Clic
Dydd Mawrth 1 Rhagfyr – Dydd Iau 24 Rhagfyr, S4C Clic
DIWEDD