Bydd ffans led led Cymru yn falch o glywed fod S4C wedi comisiynu cyfres ddrama newydd o'r enw STAD - fydd yn ddilyniant o'r gyfres boblogaidd Tipyn o Stad.
Bydd y gyfres newydd yn ail gydio â helyntion stad Maes Menai ddeng mlynedd yn ddiweddarach gydag ambell i wyneb newydd yn ymuno â'r cast. Daeth y cyfresi i ben yn 2008 yn dilyn saith cyfres lwyddiannus.
Cynhyrchir y gyfres newydd gan Cwmni Da a Triongl gydag Angharad Elen yn brif sgriptwraig.
Meddai Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C:
"Dwi'n falch iawn o gyhoeddi comisiwn newydd yn seiliedig ar y gyfres boblogaidd hon sydd wedi ei lleoli yng Nghaernarfon.
"Daeth apêl y cyfresi blaenorol yn amlwg yn ddiweddar wrth i do newydd o bobl ifanc heidio at S4C Clic i wylio bocs sets Tipyn o Stad.
"Yn sicr mae na awydd gwirioneddol i ail gydio ym mywydau cymeriadau lliwgar y ddrama wreiddiol hon gan hefyd gyflwyno cymeriadau newydd."
Llwyddodd cyfresi Bocs Sets Tipyn o Stad ar S4C Clic i ddenu 237,328 o sesiynau gwylio.
Bydd STAD yn cychwyn ffilmio yn 2021 gyda'r gyfres ar sgrin yn 2022.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?