4 Rhagfyr 2020
Mae cefnogwr brwd o'r gyfres ddrama Un Bore Mercher / Keeping Faith, Ella Rabaiotti o Abertawe wedi ennill gwobr gwerth chweil - portread enfawr o'i harwres, Faith Howells.
Meddai Ella, "Daliodd y gystadleuaeth fy llygad oherwydd y ffordd glyfar y defnyddiwyd cot felen eiconig Faith. Rwy'n hoff iawn o wnïo pan fydd gen i'r amser, felly roeddwn i'n meddwl fod darlun wedi'i wneud o ddefnydd yn drawiadol iawn.
"Roedd yn sioc go iawn cael yr alwad ffôn yn dweud fy mod wedi ennill - pan 'da chi'n trio'r cystadlaethau hyn, dydy ddim yn croesi'ch meddwl am eiliad efallai y byddwch chi'n ennill, felly roeddwn i ar ben fy nigon! Dwi methu aros i'w weld ar y wal."
Comisiynodd S4C yr artist o Gaerdydd, Nathan Wyburn, i greu'r darn fel y gallai un person lwcus gael atgof parhaol o'r gyfres ddrama boblogaidd, Un Bore Mercher, sydd ar drothwy darlledu y bennod olaf erioed.
Mae Nathan yn adnabyddus am ddefnyddio amryw o dechnegau i greu. Daeth i amlygrwydd gyntaf wrth ymddangos ar Britain's Got Talent yn 2011, pan wnaeth lun o'r beirniaid, Michael Mcintyre, allan o Farmite ar dost.
Yn fwy diweddar, talodd deyrnged i'r Gwasanaeth Iechyd trwy roi cannoedd o luniau bychain o weithwyr iechyd at ei gilydd i ffurfio delwedd drawiadol o nyrs yn gwisgo mwgwd gyda'r geiriau 'thank you'.
Dywedodd Ella, "Mae gwaith Nathan mor amlwg ac uchel ei broffil. Mae'r delweddau ar ei gyfrif Instagram yn procio'r meddwl, yn enwedig y rhai o wleidyddion. Mae'n ffitio Faith i'r dim gan ei bod hi'n gymeriad cryf sy'n dueddol o greu cynnwrf!".
"Rwy'n gweithio fel rheolwr i'r elusen Crimestoppers, felly rwy'n mwynhau gweld sut mae'r byd trosedd yn cael ei bortreadu ar y teledu. Mae gweld CID Abertawe yn y gyfres yma o Un Bore Mercher yn hynod o ddiddorol gan fy mod i'n adnabod y lle yn dda."
Mae Ella, sy'n dysgu Cymraeg, wedi manteisio ar y cyfle i ddefnyddio'r gyfres i fagu hyder.
"Rwyf wedi gwylio pob cyfres yn y ddwy iaith er mwyn ceisio gwella fy Nghymraeg. Pan ddaeth y drydedd gyfres ar S4C roeddwn i'n gyffrous iawn i wylio ac mae'r is-deitlau yn fy helpu i ddilyn beth sy'n mynd 'mlaen.
"Nawr ein bod bron a chyrraedd terfyn y gyfres, mae bron fel ein bod wedi troi cornel. Rhwng gwylio Steve Baldini yn gyrru i ffwrdd ar ôl aros draw, a mam Faith wedi troi lan - mae'r cyfan yn gyffrous iawn mae'n rhaid dweud."
I ddarganfod ffawd Faith Howells, gwyliwch y bennod olaf un o Un Bore Mercher ar S4C nos Sul am 9.00.
Un Bore Mercher
Nos Sul 6 Rhagfyr am 9.00
Isdeitlau Saesneg
Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Vox Pictures ar gyfer S4C