S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dwylo Dros y Môr 2020 yn cyrraedd siartiau iTunes y DU

Mae'r anthem eiconig Dwylo Dros y Môr, fersiwn 2020 wedi cyrraedd siartiau iTunes ar draws y Deyrnas Unedig. Mae'r gân ar hyn o bryd yn safle 15 ac mae'n dringo'r siartiau'n gyson.

Fel rhan o raglen arbennig ar S4C i ddathlu 35 mlynedd ers cyhoeddi'r clasur o'r 80au, Dwylo Dros y Mor penderfynwyd rhoi bywyd newydd i'r gân adnabyddus gan greu recordiad newydd i godi arian i Gronfa Gwydnwch Coronafeirws Cymru dan elusen Sefydliad Cymunedol Cymru.

Y gantores a'r gyflwynwraig o Fôn, Elin Fflur gafodd y dasg o gydlynu'r cyfan gyda chymorth y cerddor Owain Gruffudd Roberts gan dynnu dros 30 o artistiaid y sîn gerddoriaeth heddiw ynghyd (dan ganllawiau ymbellhau Llywodraeth Cymru) i greu trefniant newydd o Dwylo Dros y Môr 2020.

Ers darlledu'r rhaglen nos Sul ar S4C, mae'r gân yn parhau i ddringo siartiau iTunes y Deyrnas Unedig.

"Mae'r ymateb wedi bod yn hollol anhygoel" meddai Elin Fflur.

"Mae'n gân sy'n llwyddo i uno pobl mewn ffordd gwbl naturiol. Dwi'n sicr bod gallu tynnu artistiaid y sin gerddorol heddiw ynghyd wedi creu egni positif mewn blwyddyn mor anodd i gymaint o bobl. Mae'r symbol o ddwylo yn estyn cymorth mor berthnasol eleni ag erioed o'r blaen a dwi wrth fy modd fod ein trefniant newydd o gân mor eiconig wedi cyffwrdd calonnau cenhedlaeth newydd o Gymry."

Un arall sy'n falch o weld y gân yn cael bywyd newydd yw'r cerddor Huw Chiswell a gyfansoddodd y gân wreiddiol nol yn 1985.

"Doedd gen i ddim syniad y byddai Dwylo Dros y Môr yn dal i gael ei chlywed a'i chanu 35 mlynedd yn ddiweddarach" meddai Huw Chiswell

"Dwi'n falch iawn ohoni, ac mae clywed lleisiau newydd yn rhoi egni a bywyd newydd i'r gân yn galonogol tu hwnt. Y briff ges i nol yn '85 oedd i greu anthem fyddai pawb yn gallu ymuno ynddi yn y gytgan. Fe gyfansoddais i'r gân yn Nghaerdydd, ro'n i newydd gael fy mhiano cyntaf ac roedd hi'n ddiwrnod diflas a gwlyb a dyna lle ddaeth y linell gynta - 'Fe ddaeth y glas i guro'r to'. Fe ddilynais fy nhrwyn gyda gweddill y gân – ac fe ddaeth yn weddol hawdd o hynny. "

Ymysg yr artistiaid sy'n rhan o ail-greu yr anthem ar ei newydd wedd mae Mared Williams, Rhys Gwynfor, Kizzy Crawford, Heledd Watkins (HMS Morris), Elidyr Glyn (Bwncath) ac Elin Fflur. Mae ambell gyswllt teuluol rhwng y gân ddiweddaraf a'r un wreiddiol; mae'r chwiorydd Lisa, Gwenno a Mari o'r triawd gwerin Sorela dilyn ôl troed eu mam, Linda Griffiths a ganodd yn 1985. Mae Sion Land, mab drymiwr y gân wreiddiol, Graham Land hefyd yn cadw'r curiad 35 mlynedd yn ddiweddarach.

"Yn wreiddiol, 35 mlynedd yn ôl, codi arian ar gyfer argyfwng oedd yn digwydd ochr arall y byd oedd y bwriad; ond argyfwng go wahanol sydd eleni" meddai Elin Fflur.

"Mae 2020 di bod yn flwyddyn mor anodd - mae Covid wedi effeithio pob un ohonom ni, ond mae rhai pobl yn ein cymunedau wedi cael eu taro'n ofnadwy oherwydd y pandemig. A dyna lle mae'r elusen yma, Cronfa Gwydnwch Coronafeirws Cymru yn bwysig; mae'n gweithredu ar lawr gwlad ein cymunedau ni. Sw'n i'n annog pawb i brynu'r gân - 'da'n ni'n dal yng nghanol y pandemig, felly os ydyn ni'n medru helpu'r achos drwy lawr lwytho can, wel gwych ynde! Mae'r gân yn parhau i ddringo'r siartiau – helpwch ni i gyrraedd y brig a gwneud gwahaniaeth!"

Gallwch lawrlwytho'r gân yma https://www.s4c.cymru/cy/cerddoriaeth/dwylo-dros-y-mr-2020/
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?