S4C a Golwg yn cydweithio ar Wasanaeth Newyddion Digidol newydd
13 Ionawr 2020
Mae S4C a Chwmni Golwg wedi cyhoeddi cytundeb arloesol heddiw i gyhoeddi a churadu straeon newyddion fel rhan o wasanaeth newyddion digidol newydd sbon.
Mae S4C eisoes wedi penodi tîm o newyddiadurwyr i weithio ar y gwasanaeth newyddion newydd.
Bydd y tîm yn cyhoeddi straeon gwreiddiol ar ap a gwefan ac ar gyfryngau cymdeithasol.
Bydd y gwasanaeth a elwir yn Newyddion S4C hefyd yn cyhoeddi straeon o raglen Newyddion S4C, a gynhyrchir gan BBC Cymru, a straeon gan ITV Cymru a Golwg 360.
Dyma'r tro cyntaf i wasanaeth newyddion Cymraeg gyhoeddi a churadu cynnwys gan sawl ffynhonnell wahanol, gan gynnig gwasanaeth newyddion cynhwysfawr mewn un lle.
"Mae'n holl bwysig i S4C fel darlledwr cyhoeddus i allu cynnig y newyddion diweddaraf i'r gwylwyr ar flaenau eu bysedd" meddai Geraint Evans, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C.
"Mae'r dyddiau o aros i wylio prif raglen newyddion y sianel yn y nos wedi hen ddiflannu ac mae angen i ni fod yn flaengar wrth sicrhau ein bod yn gallu cynnig gwasanaeth newyddion ar amryw o blatfformau.
"Mae cydweithio gyda Golwg yn golygu ein bod yn gallu rhannu arbenigedd ac adnoddau, gan fod â bys ar byls newyddion lleol a chenedlaethol.
"Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gyda Golwg a'r partneriaid eraill ar y gwasanaeth hwn fydd yn cynnig llais newyddion newydd i Gymru."
Meddai Sian Powell, Prif Weithredwr Golwg: "Rydym yn falch o allu cydweithio efo S4C wrth iddynt greu gwasanaeth newyddion digidol newydd.
"Mae newyddiaduraeth yn profi i fod yn hanfodol yn ystod yr argyfwng ac mae'n bwysig bod newyddiaduraeth yng Nghymru yn parhau i arloesi er mwyn sicrhau fod y darllenwyr yn cael y wybodaeth fwyaf cyfredol.
"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu darllenwyr newydd i'n straeon newyddion Golwg360 trwy ap a gwefan S4C."
Bydd gwasanaeth Newyddion S4C yn lansio fis Mawrth.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?