14 Ionawr 2021
Yr adeg yma flwyddyn diwethaf, roedd pum person arbennig yng Nghymru yn teimlo fel bod angen newid mawr arnyn nhw.
Gyda'r gyfres deledu FFIT Cymru yn derbyn ceisiadau gan bobl i fod yn rhan o gyfres tri, fe benderfynodd Kevin Jones o Ruthun, Ruth Evans o Lanllwni, Elen Rowlands o Ruthun, Rhiannon Harrison o Aberystwyth ac Iestyn Owen Hopkins o Gaernarfon i roi eu henwau ymlaen.
Llai na chwe mis yn ddiweddarach, ac ar ôl serennu yn y gyfres drwy'r cyfnod clo, roedd y pum arweinydd wedi cyflawni trawsnewid gwbl syfrdanol.
Dros gyfnod o chwe wythnos yn ystod y gyfres, roedden nhw wedi colli bron i 10 stôn o bwysau rhyngddynt, llwyddo i wella eu hiechyd yn sylweddol ac ail-ddarganfod eu hunan hyder.
Ar ddechrau 2021, mae cyfle i bump person arall i fod yn rhan ganolog o'r bedwaredd gyfres wrth i geisiadau agor ar gyfer cyfres pedwar, fydd yn cychwyn ym mis Ebrill.
Ac eleni mae gan y gyfres bartneriaeth newydd gyda Anabledd Cymru - sy'n dod â sefydliadau pobl anabl yng Nghymru at eu gilydd er hawliau a chydraddoldeb pobl anabl.
Dywedodd Elin Williams o Anabledd Cymru: "Rydym yn hapus iawn i gydweithio gyda tîm cynhyrchu ac arbengiwyr FFIT Cymru i rannu y neges bositif, ac annog pobl anabl yng Nghymru i fynd amdani ac ymgeisio am le yng nghyfres trawsnewid FFIT Cymru eleni.
"Deallwn y bydd y gefnogaeth gorfforol ac emosiynol gan y gyfres tu ôl i'r llenni ac ar gamera gyda ein arweiniad ni. Mae'n gyfle cyffrous iawn."
Os ydych chi eisiau newid cyfeiriad a cheisio byw yn iachach, gyda chefnogaeth gan dri arbenigwr – beth sydd gennych chi i'w golli?
Ewch i wefan www.s4c.cymru/ffitcymru i ymgeisio nawr. Dydd Sul 31 Ionawr yw'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.
Dywedodd un o sêr cyfres tri, Ruth Evans: "Mae FFIT Cymru wedi fy helpu ym mhob ffordd bosib, tic ym mhob bocs.
"Does dim geiriau i'w gael i ddweud pa mor falch ydw i. Os byddwn i heb fod yn rhan o raglen, 'sa i'n gwybod lle byddwn i 'di bod erbyn diwedd y flwyddyn.
"Byddwn i ddim wedi bod mor iach ag ydw i. Byddwn i ddim wedi bod yn teimlo mor grêt ag ydw i. Byddwn i ddim 'di bod yn llai o seis nag o'n i. Mae e wedi fod yn fraint i fod ar y rhaglen.
"Fi'n gweld rhywun hollol wahanol, rhywun doeddwn i heb weld ers blynyddoedd mawr ac mi ydw i'n eithaf impressed efo be ydw i'n weld."
Dywedodd cyflwynydd y gyfres, Lisa Gwilym: "Mae FFIT Cymru yma i helpu pobl Cymru i deimlo'n well am eu hunain a phob blwyddyn mae'r rhaglen yn dod a gwên, nid yn unig i'r pum arweinydd, ond i'r llawer iawn mwy o bobl sydd yn dilyn y cynlluniau bwyd a ffitrwydd arbennig o'u cartrefi.
"Eleni, mae cyfle euraidd i bum arweinydd arall i ymuno ar y siwrne gwbl ysbrydoledig yma. Beth sydd gen ti i'w golli?"
I ymgeisio, ewch i wefan www.s4c.cymru/ffitcymru a chliciwch ar Ymgeisiwch Nawr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae modd ffonio aelod o griw FFIT Cymru ar 07483904452 neu e-bostio ffitcymru@cwmnida.tv.