28 Ionawr 2021
Ar ộl cyfnod hir heb ddramâu newydd, bydd y misoedd nesaf yn fwrlwm o gyfresi ffres a gafaelgar ar S4C.
Y cyntaf i'r sgrin ar nos Fercher 10 Chwefror, yw Fflam, cyfres gyfoes a gwahanol sy'n ymdrin ag angerdd a galar wrth godi'r cwestiwn a yw'n hawdd cynnau tân ar hen aelwyd?
Yr actores o Aberystwyth, Gwyneth Keyworth (Hidden/Craith, Black Mirror, The Crown, Game of Thrones) sy'n chwarae'r prif gymeriad, Noni.
Mae bywyd yn llawn gobaith iddi hi a'i chariad Deniz (Memet Ali Alabora) wrth atgyweirio eu fferm fechan.
Mae ei ffrind gorau, Malan (Mali Ann Rees) a'i gwraig Ekin (Pinar Ogun) - chwaer Deniz, hefyd yn edrych ymlaen at y dyfodol wrth i Deniz gytuno i helpu gwireddu eu breuddwyd o gael plentyn trwy fod yn rhoddwr iddynt.
Er bod bywyd yn ymddangos yn fêl i gyd, caiff y cyfan ei fygwth pan ddaw Beds (Richard Harrington) i fyd Noni ac atgyfodi ysbryd ei gŵr Tim, a fu farw mewn tân erchyll.
Meddai Gwyneth; "Mi wnes i fwynhau chwarae Noni am ei bod hi'n gymeriad cymhleth.
"Er ei bod hi'n trio gwneud y peth iawn, mae galar y gorffennol yn dal i effeithio ar ei ymddygiad a'i pherthnasau yn y presennol.
"Er mai hi eu hun yw ei phroblem fwyaf, ti bron yn deall pam mae hi'n gwneud pethau dyle hi ddim.
"Mae bron pawb yn gallu uniaethu gyda sut mae colled yn gallu gwneud i ti ymddwyn yn wahanol.
"Ydi, mae hi'n ddewr, yn ystyfnig ac mae hi'n gwneud beth mae hi moyn, ond mae pobl yn dal i gymryd mantais. Dyw hi ddim yn hollol ddiniwed chwaith."
Yn ogystal â chast arbennig, mae Fflam yn cynnig ffordd newydd o wylio.
Ar ôl i'r bennod gyntaf ddarlledu bydd y chwe phennod hanner awr o hyd ar gael fel bocs set ar Clic.
"Mewn cyfnod pan mae'r byd go iawn yn eitha scary, rwy'n credu bydd Fflam yn gyfle i ddianc i fyd arall am hanner awr, byd bach bizarre Noni.
"Dwi'n caru binjo, yn enwedig yn ystod cyfnod clo, felly byddai'n dewis gwylio'r gyfres i gyd gyda'i gilydd.
"Ond wedyn mae pobl fel Mam a Dad yn mwynhau eistedd lawr ar bwynt penodol pob wythnos i wylio rhywbeth.
"Yn sicr, mi fysa Noni yn dweud wrthych chi am wneud be chi eisiau - dyna fysa hi yn ei wneud!"
Addasiad o stori wreiddiol gan Gwenno Hughes yw Fflam, a bu Gwenno yn gweithio gydag Pip Broughton a Catrin Evans i sgriptio'r ddrama.
Ffilmiwyd y gyfres, sy'n cael ei gynhyrchu gan Vox Pictures, yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Pa bynnag ffordd y penderfynwch wylio, mae'r ddrama danllyd yn siŵr o gipio eich dychymyg.