2 Mawrth 2021
Heb os, mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i bawb, gyda phryder cyson am iechyd a llesiant ein teuluoedd, addysgu o'r cartref neu addasu i newidiadau yn ein sefyllfa gwaith.
Rhwng pob adolygiad o'r cyfyngiadau, rydym yn byw mewn gobaith bod pethau ar fin gwella.
Gyda chymaint yn y fantol, tybed sut deimlad yw bod y person sy'n dal yr allwedd i'r cyfan, yr unigolyn sy'n gyfrifol am arwain ein cenedl trwy gyfnod Covid-19 a'n tywys trwy dirwedd anwastad ac ansicr?
Bydd Prif Weinidog mewn Pandemig yn datgelu'r cyfan.
Bydd y rhaglen ddogfen, sydd ar S4C am 9.00 nos Sul, yn rhoi cyfle unigryw am gipolwg tu ôl y llen ar fywyd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y dyn sydd â'n dyfodol yn ei ddwylo.
Gyda chamerâu yn ei ddilyn ers Medi 1 2020, dyma'r mynediad cyntaf i'w fywyd dyddiol hectic.
Mae'n rhaid felly gofyn pam cytuno i'r syniad?
Ymateb Mark Drakeford yw; "Rydym ni'n byw mewn cyfnod mor anghyffredin, rwy'n meddwl ei fod yn werth cael rhyw fath o record o beth sy'n mynd ymlaen o fewn y Llywodraeth.
"Does dim byd i'w guddio, felly mae'r camera yn gallu gweld beth bynnag mae'r camera eisiau weld."
Wrth ganiatáu i'r camera ei ddilyn tu ôl i ddrysau caeedig mae siawns y bydd rhai yn gwylio yn geg agored wrth fod yn bry ar y wal mewn cyfarfodydd pedwar gwlad a thrafodaethau gyda'r cabinet.
Bydd cyfle i ddarganfod mwy am y rhesymeg dros benderfyniadau dadleuol a chael clustfeinio ar drafodaethau a arweiniodd at weithredoedd gan ein Llywodraeth, fel y clo annisgwyl cyn y Nadolig.
Ond er bod cyfle i ddod i adnabod Mark Drakeford mewn ffordd mwy personol, mae ambell gwestiwn anodd yn codi.
Beth yw barn y Prif Weinidog am arweinwyr eraill Y Deyrnas Unedig? Sut un yw'r berthynas rhwng y pedwar gwlad?
Cawn hefyd wybod mwy am yr effaith mae ei waith yn cael ar ei deulu, beth mae Mr Drakeford yn gwneud i ymlacio, sut fos yw e a sut mae'n teimlo am gael ei feirniadu?
"Mae llawer o bobl yn anghytuno gyda beth ni'n neud, ond os wyf i'n dod i ddiwedd y dydd, ac rwy'n gallu meddwl fy mod wedi gwneud fy ngorau glas, wel, dwi'n gallu cysgu'r nos.
"Beth y'n ni wedi dysgu dros y cyfnod Coronafeirws i gyd yw, pan mae Cymru yn gwneud rhywbeth yn gyntaf cyn y gwledydd eraill, mae'n anodd.
"Achos mae'r holl gwestiynau yn dod atom ni; pam? Ble mae'r dystiolaeth?".
Yn sicr, mae Prif Weinidog mewn Pandemig yn amlygu faint o bwysau sydd ar ysgwyddau Mark Drakeford, ac mae'n gyfle digynsail i ddeall mwy am rai o'r penderfyniadau sydd wedi ysgwyd y wlad.
Dyma'r cyfnod fydd yn diffinio gyrfa Mark Drakeford, wrth iddo wneud y swydd y bu'n breuddwydio amdani pan yn blentyn ac yn canfasio gyda'i dad dros y Blaid Lafur yng Nghaerfyrddin yn ystod y 1960au.
A dyma eich cyfle chi i ddod i adnabod mwy ar y dyn tu ôl y penderfyniadau.
Mae Prif Weinidog mewn Pandemig ymlaen nos Sul 7 Mawrth am 9.00.