Yn dilyn ar lwyddiant taith y Stafell Fyw, bydd cyfres o 6 sesiwn estynedig o'r enw Lŵp: Ar Dâp yn dod i blatfform Lŵp S4C dros y misoedd nesaf.
Roedd taith y Stafell Fyw yn cynnwys pedwar gig byw gyda rhai o fandiau mwyaf poblogaidd y Sîn Roc Gymraeg megis Calan, Adwaith, Gwilym, Candelas a mwy yn perfformio mewn lleoliadau ar draws Cymru ar blatfformau Lŵp.
Wedi'i lansio yn Awst 2019, mae Lŵp yn blatfform digidol sy'n cynnig llwyfan newydd ar gyfer cerddoriaeth a diwylliant cyfoes Cymraeg o bob math.
Meddai Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C:
"Rydyn ni'n falch iawn o allu comisiynu y gyfres hon o 6 o sesiynau estynedig i roi llwyfan i artistiaid cerddorol gorau Cymru.
"Ar ôl arbrawf y Stafell Fyw, mae'n hynod o bwysig ein bod ni'n datblygu cynnwys pellach ar Lŵp sy'n cefnogi'r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru a rhoi llwyfan i berfformiadau byw, a hynny mewn cyfnod sydd wedi bod yn anodd iawn."
Yn y sesiwn gyntaf, fydd ar gael i'w wylio ar 26 Mai, mae'r band gwerin amgen a phoblogaidd 9Bach yn dod at ei gilydd i recordio pedair cân arbennig o Neuadd Ogwen, Bethesda.
Mae cael y band at ei gilydd o hyd yn bleser iddyn nhw, ac mae hyn yn sicr wedi bod yn wir yn ystod y flwyddyn ddiwethaf:
"Mae 9Bach yn deulu," meddai Lisa Jên, prif leisydd y band. "'Da ni'n ŵr a gwraig, 'da ni'n frawd a chwaer, 'da ni'n ffrindiau gorau.
"'Da ni efo'n gilydd ers 15 mlynedd felly mae cael dod at ein gilydd i greu cerddoriaeth yn ddiweddar yn sbesial iawn."
Mi fydd sesiwn 9 Bach ar gael i'w wylio ar YouTube Lŵp ac ar S4C Clic o Fai 26ain ymlaen. Yna, ym mis Mehefin bydd y band Tri Hŵr Doeth yn gwneud sesiwn ac mi fydd Yr Ods yn perfformio ym mis Gorffennaf.
Yn ogystal â hyn, bydd 3 sesiwn arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn gyda 3 band arall felly cadwch lygaid allan ar blatfform Lŵp am y diweddaraf.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?