04 Mehefin 2021
Mae'n stori galonogol am frawdoliaeth, cymuned a chanu.
Bydd darllediad arbennig byd eang o Men Who Sing, ffilm wreiddiol S4C, yn y Sheffield Doc Fest eleni ar Fehefin y 6ed. Wedi'i gyfarwyddo gan Dylan Williams a'i chynhyrchu gan Gwmni Da a BACKFLIP Media, mae'r ffilm gynnes ac ingol hon, yn adrodd stori Côr Meibion Trelawnyd a'u brwydr i gadw eu côr yn fyw a denu aelodau newydd ac iau.
Mae Cymru'n cael ei alw'n wlad y gân, ac mae'r cariad at ganu yn rhan gref o'r dreftadaeth. Wrth i fywyd modern effeithio ar y diwydiant a'r diwylliant, mae Men Who Sing yn edrych ar y dyfodol ansicr iawn sy'n wynebu un o gorau mwyaf adnabyddus Gogledd Cymru.
Mae Côr Meibion Trelawnyd wedi chwarae rhan bwysig mewn diwylliant lleol ers ei sefydlu yn y pentref bach bum milltir o dref glan môr y Rhyl ym 1933. Mae'r Côr Meibion yn sefydliad o Gymru, ac yn un o symbolau mwyaf annileadwy'r wlad ledled y byd. Ond, o ganlyniad i ddirywiad cyflym yn y niferoedd ynghyd ag aelodaeth sy'n heneiddio, mae o hefyd yn sefydliad sydd mewn argyfwng. Dyma stori un côr sy'n gwrthod diflannu i'r tywyllwch.
Mae'r portread doniol a melancolaidd hwn o Gôr Meibion yn dechrau pan fydd tad y gwneuthurwr ffilm, Ed, y gŵr gweddw 90 oed, yn gwerthu cartref y teulu ac yn trefnu ei angladd ei hun. Ei unig gysur sydd ar ôl yw'r ymarfer côr ar nos Fawrth, ond gydag oedran cyfartalog o 74 ac yn dioddef dirywiad yn yr adran fas - mae ei gôr annwyl yn wynebu argyfwng ei hun. Rhaid iddyn nhw weithredu neu wynebu difodiant. Felly mae'r helfa'n dechrau i ddod o hyd i 'ddynion â gwallt brown' yn eu 40au a'u 50au a all fynd â'r côr ymlaen.
I Dylan, y cynhyrchydd, sydd bellach yn byw yn Sweden, roedd gwneud y ffilm yn gyfle euraidd i dreulio mwy o amser gyda'i dad yn yr ardal lle cafodd ei fagu. Mae Dylan yn adnabyddus am gynhyrchu ffilmiau ar bynciau sy'n agos at ei galon. Aeth ei raglen ddogfen arobryn Men Who Swim, am ei brofiad o ymuno â thîm nofio cydamserol, ymlaen i ysbrydoli'r ffilm ffuglen boblogaidd, Swimming With Men, gyda Rob Brydon yn chwarae rhan Dylan.
Dros y 15 mlynedd diwethaf mae Dylan wedi cynhyrchu a chyfarwyddo gwaith gwobrwyedig ar gyfer sinemâu a theledu, gan adrodd straeon personol i gynulleidfaoedd rhyngwladol. Mae o wedi gwneud ffilmiau ar gyfer SVT, Netflix, BBC, ARTE sydd wedi cael eu dangos mewn dros 70 o wledydd ac wedi ennill gwobrau ar draws y byd gan gynnwys y Rhaglen Ddogfen Orau yn yr Art Doc Fest ym Moscow, y Prix Italia a Gwobr y Gynulleidfa yn Silverdocs, Washington. Meddai Dylan:
"Dechreuodd y stori pan ddywedodd fy nhad wrthyf ei fod wedi gwerthu'r tŷ - ein cartref teuluol. Ar ôl byw yn Sweden am 15 mlynedd, roeddwn i'n teimlo bod fy nghysylltiad â'm cartref yn diflannu. Ar ôl dychwelyd i'w helpu i symud i'r byngalo bach yr oedd o wedi'i brynu, des i o hyd i fy nhad yn paratoi trefniadau ei angladd. Er ei fod yn mwynhau iechyd rhagorol, mae o'n 90 oed bellach, ac ers marwolaeth fy mam mae o wedi teimlo'n fwy ynysig. Yr un peth nodedig fodd bynnag oedd ei gôr annwyl.
"Penderfynais ei ddilyn i ymarfer ar y noson gyrhaeddais gan na fyddai unrhyw beth byth yn ei atal rhag mynd. Roedd yr ystafell yn llawn o ddynion roeddwn i'n eu hadnabod o fy mhlentyndod. Pob un bellach yn eu hwythdegau ond yn dal i ganu gyda'i gilydd. Dechreuais ffilmio gyda chamera bach. Daeth y dynion ataf a dechrau siarad â dyngarwch a didwylledd anhygoel. Nes i'r penderfyniad i wneud y ffilm yn syth. Mae'n stori sy'n delio ag unigrwydd, henaint, cyfeillgarwch ac yn stori o Brydain ôl-ddiwydiannol. "
Dywedodd Llinos Wynne, Comisiynydd Ffeithiol S4C:
"Weithiau mae yna gomisiwn sydd wir yn cyffwrdd â'r galon. Mae Men Who Sing yn enghraifft wych o raglen ddogfen sy'n portreadu darlun gwahanol o grŵp o bensiynwyr sy'n cyfleu neges bwerus a chadarnhaol o frawdoliaeth a chymuned. Rwy'n falch iawn y bydd y ffilm hon yn cael darllediad arbennig byd eang yn y Sheffield Doc Fest eleni ac i'w gweld ochr yn ochr â rhaglenni dogfen fwyaf pwerus y byd. Dydw i methu aros i weld yr ymateb a'r adborth ledled y byd. Llongyfarchiadau i'r tîm cyfan."
Dosberthir y ffilm gan Dartmouth Films - cwmni arloesol o raglenni dogfen annibynnol.
Dywedodd Christopher Hird o Dartmouth Productions:
"Rydyn ni'n caru'r ffilm hon. Mae'n ddifyr, yn oleuedig ac yn ddyrchafol. Mae'n gipolwg hyfryd ar fywyd Cymru, yn herio rhagdybiaethau am henaint a bydd yn apelio at unrhyw un sydd erioed wedi mwynhau canu cymunedol - fel cyfrannwr neu aelod o'r gynulleidfa. Mae'r ffilm yn symbyliad perffaith ar gyfer y byd wedi'r clo mawr, a Sheffield DocFest yw'r llwyfan perffaith i'w lansio i'r byd."