Mae S4C unwaith eto yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r BFI (British Film Institute) ar yr her gyffrous hon sy'n galw ar blant a phobl ifanc rhwng 4-18 oed i greu rhaglen fyr ei hunain gyda'r enillwyr yn derbyn sesiwn fentora yn ogystal a chael gweld ei fideo yn darlledu ar S4C.
Mae'r cynllun a arweinir gan y Gronfa Gynnwys i Gynulleidfaoedd Ifanc yn dod â darlledwyr ynghyd gyda CITV, E4, Milkshake ar Channel 5 a TG4 yn Iwerddon hefyd yn rhan o'r prosiect.
Mae S4C yn galw ar blant a phobl ifanc Cymru i greu fideo byr a gwneud cais cyn y dyddiad cau ar 28 Mehefin. Bydd gofyn i ymgeiswyr wneud fideo 30 eiliad yn nodi syniad am rhaglen deledu i'r dyfodol – rhaglen a fyddai'n addas 75 mlynedd i nawr!
Owain Williams, cyflwynydd Stwnsh fydd y mentor eto eleni ar ran S4C.
Meddai Owain: "Fydden i wedi egseito'n lân am y gystadleuaeth yma pan ro'n i'n blentyn, felly dwi wrth fy modd yn cael bod yn rhan ohoni nawr trwy helpu sêr y dyfodol i ddisgleirio.
"Roedd llynedd yn brofiad ffantastig - mae talent a chreadigrwydd pobol ifanc yn anhygoel!
"Mae gweld dy hun ar y sgrîn yn bwysicach nawr nag erioed, a fi ffili aros i weithio gydag enillwyr eleni a gweld eu gwaith ar y sgrîn lle mae fod."
Bwriad sialens Gweld Dy Hun ar y Sgrin yw ceisio annog plant a phobl ifanc i ymgysylltu â theledu, gan gynnig cyfle i rannu eu syniadau ar gyfer dyfodol teledu a chreu teledu plant sy'n ysbrydoledig, yn addysgiadol, ac yn gynhwysol.