S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Wynebau newydd cyd-gynhyrchiad newydd Cyw

24 Awst 2021

Beth yw sêr? Beth sy'n digwydd y tu mewn i gyfrifiadur? A sut gafodd ffilmiau eu creu? Dyma'r cwestiynau mawr fydd yn cael eu holi (a'u hateb) yn Byd Tad-cu, cyfres newydd ar Cyw, y gwasanaeth i wylwyr ieuengaf S4C sy'n dechrau ar 3 Medi.

Mae'r gyfres yn gyd-gynhyrchiad gyda Channel 5 (y fersiwn Saesneg yn dwyn y teitl The World according to Grandpa), ac wedi seilio ar lyfrau Chris Heath o'r un teitl.

Mae bob pennod yn dechrau gyda chwestiwn i Taid (a chwaraeir gan yr actor Danny Grehan) gan un o'i wyrion neu wyresau. Mae ei ateb doniol, llawn dychymyg yn dod yn fyw gyda help pyped ac animeiddiad arbennig. Daw'r ateb ffeithiol gywir i ddilyn gan Heti'r gwningen hoffus.

Derbyniodd y gyfres gyfraniad gan Young Audiences Content Fund (YAC Fund) y British Film Industry, sy'n gronfa wedi'i ariannu gan y Llywodraeth gyda'r nod o greu prosiectau creadigol ac ysbrydoledig ar gyfer plant a phobl ifanc.

Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Plant S4C:

"Mae wedi bod yn wych i gydweithio gyda Channel 5 a'r YAC Fund sydd wedi'n caniatáu i greu cynnwys o'r safon uchaf i'n gwylwyr ieuengaf. Mae Byd Tad-cu yn gynhyrchiad llawn hwyl, egni a dychymyg, sy'n sicr am swyno a chyfareddu.

Ffilmiwyd y cyfan dan amodau heriol y Cyfnod Clo ddechrau'r flwyddyn, ac mae'n bleser gweld actorion ifanc talentog, y rhan fwyaf ohonynt yn wynebau newydd i'r sgrin yn serennu."

Ffilmiwyd y gyfres yng nghanol cyfyngiadau tyn cyfnod y clo ar ddechrau'r flwyddyn, yn dilyn apêl ar Facebook a'r we yn gwahodd plant i ymgeisio i fod yn aelodau o'r cast. Ac yn sgîl amodau'r cyfnod, cynhaliwyd y profion sgrin a'r ymarferion i gyd dros y we.

Ymysg y cast ifanc mae Seren Bowen sy'n 12 oed o Y Barri; Owen Jac Roberts, 12 o Aberystwyth; Santiago Ciaran, 9 oed o Gaerdydd; Gwen Nefydd, 10 oed o Wrecsam; Loti Mai Delve sy'n 9 oed o Y Bari, ac Elen Dafydd Roberts o Gaerdydd sy'n 8.

Bu'r profiad o ymddangos o flaen y camera yn un cwbl newydd i amryw o'r actorion ifanc:

"Hwn ydi'r peth cyntaf dwi wedi actio ynddo" meddai Santiago Ciaran o Gaerdydd, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad, Caerdydd. "Dwi wir wedi mwynhau cwrdd â phawb a gweld sut mae pethau'n gweithio y tu ôl i'r llenni. Baswn i wrth fy modd yn cael actio eto!"

"Nes i wireddu breuddwyd wrth weithio ar y gyfres yma; roedd y broses yn un eitha' gwahanol oherwydd Covid, ond ro'n i'n falch i gael rhywbeth i edrych ymlaen ato, a gweithio wyneb yn wyneb gyda phobl" meddai Owen Jac sy'n ddisgybl yn Ysgol Penglais, Aberystwyth.

Yn ôl Seren Bowen sy'n ddisgybl yn Ysgol Bro Morgannwg, Y Bari "Roedd yr holl beth yn brofiad anhygoel, a wnes i fwynhau gymaint".

Dim ond ar lwyfan roedd Gwen Nefydd o Ysgol Gynradd Plascoch, Wrecsam wedi perfformio o'r blaen, a hynny gyda chlybiau drama lleol: "Roedd yn brofiad mor gyffrous i gael mynd i lawr i Gaerdydd i weithio ar y rhaglen, ac ro'n i'n eitha' nerfus cyn mynd. Ges i help mam i ddysgu'r geiriau. Nes i fwynhau gweld sut roedd y sgrin werdd yn gweithio, a gwneud ffrindiau newydd. Golles i fy Nhaid nol ym mis Awst llynedd, felly roedd yn brofiad od gweithio gyda'r 'Taid' ar y rhaglen. Dwi'n siwr fyddai Taid wedi bod yn browd ohonof i."

Perfformio ar lwyfan oedd yn fwy cyfarwydd i Elen Dafydd Roberts, sy'n ddisgybl yn Ysgol Treganna, Caerdydd hefyd. Bu'n wyneb cyfarwydd i rai fu'n gwylio Eisteddfod T eleni wedi iddi cael llwyddiant ar amryw o gystadlaethau: "Hwn oedd y tro cyntaf i mi gael profiad mewn stiwdio, er 'mod i wedi gwneud ambell eitem ar gyfer rhaglenni Cyw yn y gorffennol" meddai Elen.

"Roedd yn brofiad da i ddysgu'r sgript o flaen llaw, ac ro'n i'n mwynhau dysgu sut roedd pethau'n gweithio y tu ôl i'r llenni – er enghraifft, roedd peli tennis yn hongian o'r nenfwd fel arwydd o lle roedd angen i ni edrych. Faswn i'n hoffi cyflwyno ar deledu pan dwi'n hŷn!"

I Loti Mai Delve, sy'n ddisgibl yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, Y Bari "roeddwn i wir yn mwynhau cyrraedd y set bob bore a chael mynd i gael colur a gwneud fy ngwallt. Roeddwn i'n hoffi actio gyda Heti'r gwningen (sef y pyped), a dawnsio'r cha cha cha yn y bennod 'Parotiaid'"!

Byd Tad-cu

Dydd Gwener 3 Medi 7.45, S4C

Isdeitlau Cymraeg a Saesneg

Ar alw: S4C Clic; BBC iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad Boom Plant mewn cyd-weithrediad gyda Grandpa Productions a Saffron Cherry i S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?