Heddiw, cyhoeddodd S4C a chwmni teledu Rondo fanylion cystadleuaeth Côr Cymru 2022.
Dyma'r degfed tro i brif gystadleuaeth gorawl Cymru gael ei chynnal ac ers y cychwyn yn 2003, a nod y gystadleuaeth yw cynnal a chodi safonau corawl Gwlad y Gân.
Mae pum categori yn y gystadleuaeth - corau plant, corau ieuenctid, corau cymysg, corau lleisiau unfath a chorau sioe.
Bydd panel o feirniaid rhyngwladol yn dewis hyd at bedwar côr ymhob categori i berfformio yn y rowndiau cynderfynol ym mis Chwefror 2022. Mae pob côr sy'n cyrraedd y rowndiau cynderfynol yn derbyn £500 gydag enillydd y categori yn ennill £1,500.
Bydd y pum côr gorau o'r rowndiau cynderfynol, ym marn y beirniaid rhyngwladol, yn cael eu dewis i berfformio yn y ffeinal fawr ar 3 Ebrill yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ac yn fyw ar S4C.
Yn ogystal ag ennill teitl Côr Cymru 2022 mae gwobr ariannol o £4,000 i'r côr buddugol. Bydd gwobr i'r arweinydd gorau a gwobr am y perfformiad gorau gan gôr na fydd yn cyrraedd y ffeinal.
Y cam cyntaf yw recordio sain y corau yn eu cynefin ddiwedd Tachwedd 2021 pan fydd angen iddynt berfformio rhaglen o 6-8 munud o gerddoriaeth.
"Mae'r gystadleuaeth hon yn un o gonglfeini digwyddiadau S4C ac yn un ry'n ni'n falch iawn ohoni," meddai Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C. "Mae'n llwyfan gwych i gorau Cymru ac mae'n beth braf gallu arddangos talentau corawl Cymru ar S4C a hynny wedi cyfnod mor hir ac anodd i gorau."
Mae enillwyr y gorffennol yn cynnwys Ysgol Gerdd Ceredigion, Cywair, Côr Heol y March, Serendipity, Côr y Wiber a Chôr Merched Sir Gâr.
Bydd cyfle i gorau ysgolion cynradd hefyd gystadlu yng nghystadleuaeth Côr Cymru Cynradd gyda'r ffeinal ar nos Sadwrn 2 Ebrill 2022 a ffeinal Côr Cymru ar 3 Ebrill 2022.
Bydd y rowndiau cyn-derfynol a'r 2 ffeinal yn cael eu darlledu ar S4C.