Tair gwobr i S4C yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2021
10 Medi 2021
Mae S4C wedi llwyddo i gipio tair gwobr yng Ngwyl Cyfryngau Celtaidd 2021 a gynhaliwyd ar-lein yr wythnos hon gyda'r cynyrchiadau llwyddiannus i gyd wedi eu cynhyrchu gan Cwmni Da yng Nghaernarfon.
Llwyddodd rhaglen hudol Nadolig Deian a Loli gipio'r wobr yn y categori Rhaglen Blant.
Daeth rhaglen dwymgalon Côr Digidol Rhys Meirion i'r brig yn y categori Adloniant a llwyddodd rhaglen antur Huw
Jack Brassington, 47 Copa ennill y categori Dogfen Chwaraeon.
Cynhaliwyd y gwobrau ar-lein am y tro cyntaf erioed gyda'r comedïwr a'r actor Sanjeev Kohli yn cyflwyno ar y cyd â Cyfarwyddwr yr Ŵyl Catriona Logan.
Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C:
"Rydym yn falch iawn bod rhaglenni S4C wedi cael cydnabyddiaeth yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd, ac wedi dod i'r brig mewn tri categori cystadleuol.
"Llongyfarchiadau mawr i Cwmni Da a'r holl dimau talentog sydd wedi gweithio'n ddiwyd ar y rhaglenni yma."
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?