Bydd S4C yn dangos gemau byw o Bencampwriaethau Chwe Gwlad Menywod a Dan 20 flwyddyn nesaf.
Bydd Pencampwriaeth Chwe Gwlad Menywod yn cael ei chwarae yn ystod mis Mawrth ac Ebrill, mewn ffenestr ar wahân i'r Dynion a'r timoedd Dan 20, ac mi fydd Clwb Rygbi Rhyngwladol yn dangos dwy o gemau gartref Cymru yn fyw o Barc yr Arfau.
Bydd Cymru v Ffrainc ar nos Wener 22 Ebrill, i'w gweld yn fyw ar S4C, yn ogystal â'u gêm olaf yn y bencampwriaeth yn erbyn Yr Eidal, ar ddydd Sadwrn 30 Ebrill.
Cyn hynny, bydd Clwb Rygbi Rhyngwladol yn dangos tair gêm gyntaf Cymru ym Mhencampwriaeth Y Chwe Gwlad Dan 20.
Bydd gêm agoriadol y Cymry, oddi cartref yn erbyn Iwerddon ar nos Wener 4 Chwefror, i'w gweld yn fyw, cyn y gêm gartref yn erbyn yr Alban ar nos Wener 11 Chwefror.
Bydd Clwb Rygbi Rhyngwladol hefyd yn dangos y gêm oddi cartref yn erbyn Lloegr yn fyw ar nos Wener 25 Chwefror.
Bydd sylwebaeth Saesneg ar gael ar gyfer pob un o'r gemau drwy wasanaeth y botwm coch. BBC Cymru fydd yn cynhyrchu Clwb Rygbi Rhyngwladol ar ran S4C.
Gemau Byw ar S4C
Chwe Gwlad Menywod
Nos Wener 22 Ebrill - Cymru v Ffrainc – 8.00yh
Dydd Sadwrn 30 Ebrill – Cymru v Yr Eidal – 12.00yh
Chwe Gwlad Dan 20
Nos Wener 4 Chwefror – Iwerddon v Cymru – 8.00yh
Nos Wener 11 Chwefror – Cymru v Yr Alban – 8.00yh
Nos Wener 25 Chwefror – Lloegr v Cymru – 7.00yh
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?