Sgorio i ddarlledu gêm gyfeillgar ddyngarol y tîm cenedlaethol
21 Mawrth 2022
Bydd gêm gyfeillgar tîm Cymru yn cael ei ddarlledu'n fyw ar S4C ar 29 Mawrth gyda'r gic gyntaf yn cychwyn am 7.45 yr hwyr.
Bydd unrhyw elw o'r gêm gyfeillgar - yn ogystal â chasgliad ymysg y chwaraewyr a chefnogwyr - yn mynd tuag at yr apêl ddyngarol ar gyfer pobl Wcráin.
Bydd tîm Robert Page yn herio un ai'r Weriniaeth Tsiec, Sweden neu'r Alban yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda'r gwrthwynebwyr yn ddibynnol ar ganlyniad y gêm yn erbyn Awstria ar 24 Mawrth.
Pe bai Cymru'n fuddugol ac yn cyrraedd rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd - i'w chwarae fis Mehefin - yna tîm anfuddugol y gêm rhwng Sweden a'r Weriniaeth Tsiec fydd yr ymwelwyr.
Ond os mai colli yn erbyn Awstria fydd tynged Cymru, Yr Alban fydd yn gwneud y daith i Gaerdydd.
Dywedodd Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C:
"Mae S4C yn falch iawn o ddarlledu'r gem gyfeillgar yma yn fyw ac yn falch o gefnogi ymgyrch ddyngarol Cymdeithas Bêl-Droed Cymru.
"Mae wedi bod yn dorcalonnus gweld yr argyfwng hwn yn datblygu ac yn dwysau yn Wcráin.
"Gobeithio bydd yr arian a godir trwy law Apêl Ddyngarol DEC yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r rhai sydd yn cael eu heffeithio gan y gwrthdaro."
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?