Mae S4C wedi llwyddo i gael deg enwebiad yng ngwobrau RTS Cymru eleni.
Mae'r gwobrau yn dathlu rhagoriaeth mewn darlledu, cynnwys digidol a ffilmiau myfyrwyr ac yn cydnabod yr amrywiaeth eang o sgiliau a phrosesau sydd ynghlwm a chynyrchiadau o bob math.
Llwyddodd S4C i gael tri enwebiad yng nghategori Torri Trwodd gyda Euros Llyr Morgan o Carlam TV a Rachael Solomon o Boom Cymru yn y categori 2020 a Justin Melluish, Severn Screen am ei waith actio yn y gyfres ddrama Craith yn nghategori 2021.
Daeth dau enwebiad i S4C yn y categori plant sef Deian a Loli, Dygwyl y Meirw a gynhyrchir gan Cwmni Da a Mabinogiogi, Clustiau'r March gan Boom Cymru.
Llwyddodd y gyfres ddrama boblogaidd Un Bore Mercher i gael enwebiad yn y categori drama 2020 fel cyd-gynhyrchiad rhwng S4C a BBC Cymru. Yn ogystal daeth enwebiad i gyfres ddrama droseddol S4C Yr Amgueddfa yng nghategori Drama 2021.
Yn y categori Digidol daeth cyfres ffraeth Pa fath o bobl i'r brig gyda Garmon ab Ion yn cyflwyno ar gyfer cynhyrchiad Boom Cymru i S4C, a hefyd Yn y Garej: Philip Mills cynhyrchiad Tinopolis ar Facebook. Llwyddodd rhaglen ddogfen John Owen: Cadw Cyfrinach gan gwmni Wildflame i gyrraedd y rhestr hefyd yn y categori Newyddion a Materion Cyfoes.
Dywedodd Sian Doyle, Prif Weithredwr S4C:
"Llongyfarchiadau mawr i holl gomisiynau S4C sydd wedi llwyddo i gyrraedd rhestr fer gwobrau RTS Cymru eleni.
"Mae amrywiaeth y cynyrchiadau yn dangos ystod gwaith S4C a thalent y sector ac rwy'n falch iawn fod ein cyfresi safonol a rhai o'n cynhyrchwyr ac actorion talentog yn cael cydnabyddiaeth am eu gwaith. Pob lwc i bawb yn y seremoni wobrwyo fis nesaf."
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn noson arbennig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd ar nos Wener 8 Ebrill.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?