29 Mawrth 2022
Cate Le Bon fydd yn dewis a dethol artistiaid blaenllaw yn y bennod nesaf o Curadur.
Mewn rhaglen arbennig awr o hyd bydd y cerddor o Orllewin Cymru sydd nawr yn byw yng Nhgaliffornia, yn galw ar llond llaw o artistiaid talentog sydd wedi dylanwadu arni i sgwrsio a perfformio traciau.
Bydd cyfle cyntaf i wylio ar S4C yn gyntaf, ar nos Iau (31 Mawrth) am 10.00, cyn i'r rhaglen fod ar gael ar S4C Clic ac iPlayer.
"Dwi'n dod o Benboyr, ger Llandysul," meddai Cate. "Fi di bod yn byw on a off yn America ers tua 10 mlynedd. Nesi symud i Los Angeles yn 2012, gwario peth amser yn San Fransisco a bellach wedi symud i'r anialwch ger Joshua Tree yn California.
"Mae byw a bod mor bell o Gymru wedi rhoi persbectif hollol newydd ar fy Nghymreictod. Mae wedi gwneud i fi sylweddoli pa mor bwysig yw e i fi fel unigolyn."
"Ar gychwyn y pandemig, nes i ffeindio fy hun yng Ngwlad yr Iâ yn cynhyrchu record John Grant. Nesi symyd yn ôl i Gymru am flwyddyn a tra yno, mi wnes i recordio record newydd fy hun sydd newydd ddod allan, â chwrdd â rhai o fy hoff artistiaid".
Yn ogystal â bod yn ganwr-gyfansoddwr uchel ei pharch, mae Cate yn cynhyrchu cerddoriaeth i eraill, felly mae ganddi naws am adnabod sain afaelgar.
Wrth egluro sut y daeth ar draws y band cyntaf o'i dewis, Pys Melyn, dywedodd:
"Tra'n perfformio yn Neuadd Ogwen yn 2019, daeth Pys Melyn i gefn llwyfan. Oedd na rhywbeth am eu egni nhw, y ffordd o nhw gyda'i gilydd oedd mor annwyl a brydferth i fi, a nes i cwympo mewn cariad gyda nhw."
Ar Curadur bydd Pys Melyn yn perfformio eu trac, Helynt, yn ogystal â pherfformiad ecsgliwsif o Dim Gwreiddyn gyda DRINKS, sef band Cate â'r cerddor adnabyddus o America, Tim Presley.
Mae Tim wedi bod yn rhan o fandiau nodedig fel The Fall a White Fence.
Ymhlith yr artistiad eraill sy'n serennu mae: Accu, Samur Khouja, Devendra Banhart, Courtney Barnett a Stella Mozgawa.
Bydd perfformiad byw o'r sengl, Moderation, oddi ar albwm newydd Cate, Pompeii. Recordiwyd y perfformiad yn Pappy and Harriet's, lleoliad eiconig yn nhref Pioneertown ger cartref Cate yn California - gig olaf ei thaith o America.
Bydd hefyd cyfle i glustfeinio ar sgwrs agored rhwng Cate â hen ffrind, y cynhyrchydd â peiriannydd sain o Gaerdydd, Kris Jenkins.
Bydd y ddau yn bwrw golwg ar brofiadau cyntaf erioed Cate yn y stiwdio ac yn datgelu sut y daeth ei record gyntaf, Me Oh My, i fodolaeth - proses a gymrodd dros flwyddyn a llawer o arbrofi.
"Mi aetho ni'n llawer rhy bell," meddai'r ddau wrth chwerthin.
Ers hynny, mae Cate Le Bon wedi rhyddhau 6 albwm a sawl EP a dau albwm fel rhan o DRINKS.
Am berfformiadau arbennig o ganeuon gwreiddiol sy'n dathlu cyfraniadau a dylanwadau cerddorol gan artistiaid ar draws cyfandiroedd America, Awstralia ac Ewrop, gwyliwch Curadur ar S4C am 10.00 nos Iau.
Mae'r dair gyfres gyfan o Curadur nawr ar gael i'w gwylio ar S4C Clic.