16 enwebiad i S4C yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2022
31 Mawrth 2022
Mae S4C wedi derbyn 16 enwebiad yng Ngwobrau Torc Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2022.
Cynhelir yr ŵyl eleni yn Quimper rhwng 7-9 Mehefin, ac mae'r ŵyl yn hyrwyddo'r diwylliannau a'n hieithoedd Celtaidd drwy deledu, ffilm, radio a chyfryngau digidol.
Llwyddodd S4C i ennill dau enwebiad yn y categori plant gyda rhaglen arbennig Calan Gaeaf Deian a Loli a Drygwyl y Meirw (Cwmni Da) a Mabinogiogi: Clustiau'r March (Boom Cymru)
Daeth dau enwebiad hefyd i S4C yn y categori materion cyfoes gyda rhaglen iasol Llofruddiaeth Mike O'Leary (ITV Cymru) a rhaglen amserol bwysig Prif Weinidog mewn Pandemig (Zwwm Films)
Llwyddodd cyfres gomedi Rybish (Cwmni Da) i ennill enwebiad yn y categori Comedi ynghyd â rhaglen bwerus Curadur: Lemfreck (Orchard) yn y categori Cerddoriaeth Fyw.
Cyrhaeddodd cyfres boblogaidd Bwyd Epic Chris (Cwmni Da) y rhestr fer yn y categori adloniant Ffeithiol a rhaglen emosiynol John Owen: Cadw Cyfrinach (Wildflame) yn y categori Dogfen Nodwedd.
Cyrhaeddodd dwy o raglenni cyfres ffeithiol S4C DRYCH y rhestr fer hefyd yn y categori Dogfen Unigol sef DRYCH: Byw heb freichiau (Zwwm Films) a DRYCH: Chwaer Fach Chwaer Fawr (Dogma)
Daeth llwyddiant hefyd i ddramâu S4C gyda chyfres bwerus Fflur Dafydd, Yr Amgueddfa (Boom Cymru) yn cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Cyfres Ddrama, drama eiconing Grav (Regan Developments) yn y categori Drama Unigol a Hen Wragedd a Ffyn (It's My Shout) yng nghategori Drama Fer.
Llwyddodd rhaglen Terfysg yn y Bae (Tinopolis) i gyrraedd y rhestr fer yn y categori Hanes, a Stori Jimmy Murphy (Docshed) yng nghategori Dogfen Chwaraeon.
Yn ogystal llwyddodd comisiwn amserol Blwyddyn Covid: Lleisiau Cymru (Kailash Films) i ennill enwebiad yng ngwobr fawr yr Ŵyl sef categori Ysbryd yr Ŵyl.
Meddai Geraint Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi S4C:
"Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi eu henwebu ar gyfer gwobrau'r ŵyl eleni.
"Mae amrywiaeth y cynyrchiadau ar y rhestr fer yn adlewyrchu safon y rhaglenni ar draws ein amserlen. Pob lwc i bawb fis Mehefin."
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?