Llwyddodd S4C i gipio nifer o wobrau yn noson wobrwyo RTS Cymru dros y penwythnos.
Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn noson arbennig yn Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Caerdydd nos Wener 8 Ebrill.
Meddai Sian Doyle, Prif Weithredwr S4C:
"Llongyfarchiadau mawr i gwmnïau cynhyrchu Chwarel, Boom Cymru, Wildflame a Tinopolis ar eu llwyddiant yng ngwobrau RTS Cymru.
"Mae amrywiaeth y cynyrchiadau yn dangos ystod gwaith S4C a thalent y sector ac rwy'n falch iawn fod ein cyfresi safonol a rhai o'n timau cynhyrchu talentog yn cael cydnabyddiaeth am eu gwaith." Llwyddodd rhaglen ddogfen ysgytwol John Owen: Cadw Cyfrinach (Wildflame) i gyrraedd y brig yng nghategori Newyddion a Materion Cyfoes.
Yn ogystal cipiodd cynhyrchiad Yn y Garej: Philip Mills (Tinopolis) y wobr yn y categori Digidol.
Daeth Rachael Solomon (Boom Cymru) i'r brig hefyd yn y categori Torri Trwodd.
Llongyfarchiadau mawr hefyd i gwmni Chwarel am gipio'r wobr yn y categori Cyfnod Clo gyda The Great House Giveaway/ Tŷ am Ddim.
Dyma'r pedwerydd gwobr i gwmni Chwarel yn ddiweddar ar ôl cipio gwobr Broadcast Uk, BAFTA, RTS a nawr RTS Cymru hefyd.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?