Dogfen S4C yn dangos yr eiliad cafwyd llanc ifanc ei arestio am lofruddiaeth Logan Mwangi
30 Mehefin 2022
Yn Llys y Goron Caerdydd heddiw, fe gafodd tri o bobol eu dedfrydu i garchar am oes am lofruddio'r bachgen pump oed, Logan Mwangi, ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cafwyd hyd i gorff Logan yn afon Ogwr ar 31 Gorffennaf 2021.
Ym mis Ebrill, cafwyd ei fam, Angharad Williamson, ei lystad John Cole a bachgen yn ei arddegau, Craig Mulligan, sef llysfrawd Logan, yn euog o lofruddio Logan. Cyhuddwyd Williamson a Mulligan hefyd o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Oherwydd ei oedran, nid oedd modd enwi Mulligan am resymau cyfreithiol ond yn dilyn y ddedfryd heddiw dyfarnodd Mrs Ustus Jefford y gallai cyfyngiadau gael eu codi, oherwydd ei fod er budd y cyhoedd.
Mae'n dod ac achos difrifol a ddisgrifiwyd gan un o'r ditectifs sy'n arwain yr ymchwiliad fel: "Un o'r achosion gwaethaf i mi weithio arno" i derfyn. Dywedodd y Ditectif Sarjant Ed Griffith hefyd: "Bydd hwn yn byw gyda fi am byth".
Am 9.00pm heno, mae DS Ed Griffith yn un o nifer o blismyn i ymddangos mewn rhaglen ddogfen ar S4C am yr ymchwiliad, Llofruddiaeth Logan Mwangi.
Mae'r rhaglen yn amlinellu ymgais Heddlu De Cymru i ennill cyfiawnder i Logan, a gafodd ei ddarganfod gyda 56 o anafiadau ar ei gorff.
Bydd gwylwyr yn cael mynediad at rhai o'r darnau allweddol o dystiolaeth a ganiataodd i'r heddlu greu darlun o'r hyn a ddigwyddodd, gan gynnwys lluniau o gamerâu a wisgwyd ar y corff, teledu cylch cyfyng a chyfweliadau heddlu.
Bydd yn dangos y foment y cafodd y tri diffynnydd eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn ogystal ag ffilmiau sydd heb eu gweld erioed o'r blaen o Craig Mulligan yn cael ei gyfweld gan yr heddlu.
Dedfrydwyd Craig Mulligan i garchar am o leiaf 15 mlynedd, bydd Angharad Williamson dan glo am o leiaf 28 o flynyddoedd a John Cole am o leiaf 29 mlynedd.
Gwyliwch Llofruddiaeth Logan Mwangi heno am 9.00 ar S4C / BBC iPlayer i ddarganfod sut gynhaliwyd ymchwiliad trylwyr Heddlu De Cymru.
Llofruddiaeth Logan Mwangi
Dydd Iau 30 Mehefin, 9.00 Isdeitlau Saesneg
Ar S4C Clic, BBC iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Multistory Cymru ar gyfer S4C
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?