15 Gorffennaf 2022
Ar drothwy pen-blwydd S4C yn 40 yn ddiweddarach eleni, mae'r sianel yn estyn allan i gynulleidfaoedd yn y DU a ledled y byd gyda darllediadau cynhwysfawr o ddigwyddiad amaethyddol mwyaf Ewrop sef y Sioe Frenhinol.
Mae sioe fawr yn Llanelwedd, Powys yn ôl wythnos nesaf o ddydd Llun 18 - dydd Iau 21 Gorffennaf ar ôl toriad o ddwy flynedd yn dilyn Covid. Bydd S4C yn cynnig darllediadau ecsgliwsif o'r digwyddiad ar nifer o lwyfannau gydag isdeitlau Saesneg a ffrydiau byw ar dudalennau YouTube a Facebook y sianel.
Fe fydd rhaglenni'r wythnos yn dechrau am 7.30 ar nos Sul, 17 Gorffennaf gyda Rhagflas y Sioe - cyfle i wylwyr fwynhau'r paratoadau munud olaf a chael blas o beth i sydd i'w ddisgwyl yn ystod yr wythnos. Yn dilyn am 8yh, fe fydd rhaglen grefyddol ac ysbrydol S4C sef Dechrau Canu, Dechrau Canmol yn rhoi'r cyfle i gynulleidfaoedd ymuno yn Moliant y Maes - dathliad crefyddol cyn i'r sioe ddechrau.
Bydd gwasanaeth S4C Y Sioe yn cynnig darllediadau trwy'r dydd o faes y sioe ar S4C a BBC iPlayer gydag isdeitlau Saesneg, gyda ffrwd fyw ychwanegol o'r prif gylch ceffylau o 8.00yb gyda sylwebaeth yn Gymraeg a Saesneg ar S4C YouTube a Facebook Y Sioe. Yn ogystal, fe fydd rhaglen arbennig o uchafbwyntiau bob nos am 9.00yh.
Hefyd, fe fydd cynnwys ar gael i'w wylio ar BBC iPlayer a S4C Clic, gwasanaeth ar alw S4C.
Meddai Prif Weithredwr S4C Siân Doyle: "Rydw i'n wrth fy modd bod Sioe Frenhinol Cymru yn ôl a bod S4C unwaith eto yn mynd i fod yn darlledu'n ecsgliwsif o'r Sioe. Mae hi'n un o'r digwyddiadau blynyddol mwyaf yng Nghymru ac yn brif ddigwyddiad yng nghalendr gwledig Prydain - mae'n denu gwylwyr ac ymwelwyr dros y byd."
"Mae hi hefyd yn un o'r prif ddigwyddiadau yng nghalendr blynyddol S4C, felly rydym ni wrth ein boddau i allu cynnig ystod mor anhygoel o ddarllediadau i'n gwylwyr ble bynnag yn y byd y maen nhw ac ar amser sydd yn gyfleus iddyn nhw."
Mae arlwy'r sioe yn rhan bwysig o ystod eang o raglenni gwledig ac amaethyddol S4C gan gynnwys Cefn Gwlad, Ffermio, Cynefin ac Am Dro, sy'n adlewyrchu bywyd gwledig Cymru.
Bydd S4C hefyd yn cynnal nifer o gwmnïau cynhyrchu annibynnol Cymreig gan roi cyfle i wylwyr ddarganfod mwy am gymryd rhan mewn sioeau poblogaidd ac sydd wedi ennill sawl gwobr.
Meddai Siân Doyle: "Rydym yn falch iawn o raglenni gwledig ac amaethyddol poblogaidd S4C sy'n cael eu dangos drwy gydol y flwyddyn - bydd hwn yn gyfle i arddangos yr hyn sydd gennym i'w gynnig."
Yn ogystal â bod yr unig ddarlledwr i gynnig darllediadau o'r Sioe, bydd S4C yn cynnal nifer o ddigwyddiadau yn ystod y digwyddiad pedwar diwrnod gan gynnwys sioeau Cyw a Stwnsh i wylwyr iau.
DIWEDD
Y Sioe 2022
Bydd darllediadau S4C o'r Sioe Frenhinol fel a ganlyn:
Rhaglen ragflas, Sul 17 Gorffennaf, 7.30, isdeitlau Saesneg
Dechrau Canu Dechrau Canmol: Moliant y Maes, Sul 17 Gorffennaf 8.00
Llun - Iau 18 - 21 Gorffennaf
Ffrwd fyw o Gylch y Ceffylau gyda sylwebaeth Cymraeg a Saesneg yn ddyddiol o 8yb
Gydol y dydd 9.00 - 5.00, isdeitlau Saesneg ar gael
Uchafbwyntiau 9.00, isdeitlau Saesneg
Ar alw: S4C Clic; BBC iPlayer a llwyfannau eraillCynhyrchiad Boom Cymru ar gyfer S4C