1 Awst 2022
Mae S4C, y darlledwr Cymraeg, wedi comisiynu Mwy na Daffs a Taffs (teitl dros dro),sef cyfres ob-doc 6x40 munud, a gynhyrchir gan Carlam Ltd.
Bydd cynhyrchiad y gyfres newydd hon yn cael ei lansio'n swyddogol yn Eisteddfod Genedlaethol 2022, yr ŵyl ddiwylliannol fwyaf yn Ewrop, a gynhelir eleni yn Nhregaron, Cymru rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst.
Bydd Mwy na Daffs a Taffs (Teitl Dros Dro), yn gweld enwogion teledu realiti, pob un â'i gysylltiad ei hun â Chymru, yn ymgolli'n llwyr yn y diwylliant Cymreig, i daflu goleuni ar y rhagdybiaethau a'r rhagfarnau sydd ganddynt am y Wlad. Nod pob pennod fydd dangos i'n selebs teledu a'r gwylwyr gartref, fod gan y Gymru go iawn lawer mwy i'w gynnig na dim ond Cennin Pedr a Defaid. Am 48 awr byddant yn cael profiad o Gymru mewn ffordd a fydd yn eu herio, eu synnu a'u swyno.
Ymhlith yr enwogion a gyhoeddwyd hyd yma mae Gemma Collins o TOWIE, gyda mwy o enwogion a dylanwadwyr proffil uchel i'w cyhoeddi'n fuan.
Bydd gwylwyr yn cael eu harwain drwy'r fformat gan y gyflwynwraig, Miriam Isaac, a fydd i'w gweld gyda'r enwogion drwy gydol eu taith. Ar ddiwedd pob pennod, bydd y cyflwynydd yn wynebu'r enwogion gyda recordiad o'u sylwadau cychwynnol.
Dywedodd Gemma Collins: "Pan dwi'n meddwl am Gymru, dim ond am fywyd y cymoedd dwi'n ei wybod. Ond dwi eisiau gwybod... Oes mwy i Gymru? O'r funud y des i Gymru, y cyfan roeddwn i'n gallu ei arogli oedd glo – yr arogl na allwn i byth ei anghofio – dyma atgof cynharaf fy mhlentyndod."
Dywedodd Prif Swyddog Cynnwys S4C, Llinos Griffin-Williams: "Mae S4C wedi ymrwymo i gyflwyno ystod amrywiol a bywiog o gynnwys, gan sicrhau rhaglenni perthnasol a chyffrous sy'n gwthio'r ffiniau. Mae Mwy na Daffs and Taffs yn cael ei gomisiynu fel rhan o'n strategaeth newydd sy'n canolbwyntio ar ddod â cyfresi difyr, pryfoclyd sy'n sbarduno trafodaeth ac apêl i gynulleidfaoedd presennol a newydd. Rydym am ymgysylltu â dadleuon cenedlaethol ac adlewyrchu Cymru amrywiol, fodern a'i pherthynas â gweddill y byd. Mae'r comisiwn hwn yn dod â thalent boblogaidd eang i'n llwyfannau wrth iddynt herio syniadau am Gymru a Diwylliant Cymru. Ein nod yw darparu cynnwys amrywiol ar gyfer 2023/24, gan symud o sianel llinol yn unig i fod yn ddarlledwr aml-lwyfan â ffocws digidol, gan wneud rhaglenni poblogaidd, cynhwysol a fydd yn ennyn diddordeb cynulleidfaoedd newydd ac yn diddanu ein gwylwyr presennol."
DIWEDD