Bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn gydag aelodau'r cast Lois Meleri Jones (Antonia), Dyfan Roberts (Gronw), Graham Land (Les), Owain Arwyn (Dafydd Aldo), awdur a cynhyrchydd y gyfres, Iwan 'Iwcs' Roberts a'r cynhyrchydd Llŷr Morus.
Yn seiliedig ar y llyfr o'r un enw, mae'r awdur o Drawsfynydd, Iwan 'Iwcs' Roberts', hefyd yn un o'r cynhyrchwyr sy'n gyfrifol am ddod â'r nofel yn fyw.
"Mi wnes i gyhoeddi fy nofel gyntaf, Dal y Mellt, yn 2019," meddai Iwcs. "O ni'n gwybod yn fy nghalon pan o ni'n sgwennu fod hi'n nofel weledol iawn. Drama oedd hi yn fy mhen cyn i mi ddechrau. Peintio hefo geiriau oeddwn i mewn ffordd.
Iwan 'Iwcs' Roberts
Felly i'r rhai sydd heb ddarllen y nofel eto, pa fath o gyfres fydd Dal y Mellt?
"Oedd pobl yn gofyn - be fydda ti'n cymharu fo hefo; Peaky Blinders, stwff Guy Ritchie? Naci, dwi isio pobl ddweud, mae'n debyg i Dal y Mellt. Dwi'n grediniol mai drama Gymraeg i bobl Cymru ydi hon, achos mae'r Cymry'n haeddu fo.
"Mae Rhys Ifans yn dweud ar flaen y nofel, 'Taith wyllt i berfeddion byd sy'n troi o dan ein trwynau'. O ni'n trio creu bywyd eithaf real a byrlymus.
"Sefyllfaoedd mae pobl yn cael eu rhoi i mewn ac maen nhw'n trio ffeindio'i ffordd allan ohoni, a 'does neb yn gwybod yn iawn be sy'n mynd ymlaen.
"O ni'n meddwl fod hwnna'n ddiddorol iawn o ran darllenydd, a dyna dwi'n drio gyfleu rŵan i'r gwylwyr. Felly bydd yr addasiad teledu, sef chwe awr o ddrama, yn dryw iawn i'r nofel."
Bydd y dangosiad yn Gymraeg, gyda isdeitlau, a gyda natur fyrlymus i'r gyfres bydd y ddrama yn siŵr o apelio at gynulleidfa eang.
Oherwydd iaith ffraeth a gref, mae'r dangosiad yn addas at gynulleidfa dros 12 oed.