20 Hydref 2022
Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd Gogglebocs Cymru yn bwrw'r sgrin am y tro cyntaf ar nos Fercher 2 Tachwedd.
Daw hyn yn sgil y newyddion fod Studio Lambert wedi rhyddhau fformat rhaglen hynod boblogaidd Channel 4, Gogglebox, o dan drwydded yn egsgliwsif i S4C.
Bellach ar yr 20fed cyfres, mae Gogglebox yn dal i fynd o nerth i nerth a dyma gyfle euraidd i wylio cyfres newydd sbon gyda gogwydd a chast hollol Gymreig.
A phwy well i leisio, na un o leisiau amlycaf Cymru, y cyflwynydd a'r digrifwr Tudur Owen?
"Dwi'n wyliwr brwd o deledu ac yn mwynhau Gogglebox ers blynyddoedd," meddai Tudur.
"Ond prin iawn fyddai'n gwylio teledu byw. Mae arferion gwylio pawb wedi newid rŵan tydi.
"Pob tro dwi'n rhoi'r teledu 'mlaen, dwi'n rhyfeddu gyda'r dewis. Weithiau, byddai jyst yn mynd i 'neud panad am mod i ddim yn gwybod ble i ddechrau.
"Yn aml iawn, mi fyddai'n defnyddio Gogglebox fel argymhellant o beth i'w wylio.
"Dwi 'di gweld lot o gyfresi da o'i herwydd - a gobeithio neith hynny weithio i raglenni Cymreig hefyd, trwy roi sylw a spotlight arnyn nhw."
Bydd mwyafrif helaeth o arlwy cartrefi Gogglebocs Cymru yn dod o Gymru.
Bydd ambell gynhyrchiad o du hwnt yn ymddangos hefyd fel bod trafodaethau ac ymatebion y cast yn adlewyrchu yr hyn sy'n digwydd mewn cartrefi ledled y byd.
"Mae Gogglebox wedi llwyddo i sefyll ar ei draed ei hun, ond mae hefyd wedi helpu rhaglenni sy'n boddi mewn môr o ddewis.
"Mae 'na gymaint o stwff gwych yn cael ei gynhyrchu yn Gymru, bydd hyn yn ffordd arbennig o dynnu sylw at raglenni bysa pobl falla ddim yn sylwi arnyn nhw fel arall.
Mae Tudur yn awyddus i amlygu mai rhan fach iawn sydd gydag ef i'w chwarae.
"Dwi wedi rhyfeddu ar y gwaith sy'n mynd mewn i'r cynhyrchu. Mae Cwmni Da a Chwarel gydag oriau o dapiau i fynd trwy cyn y bydda i yn cael edit bras o'r rhaglen, a chynnig fy llinellau a sylwadau.
"Ond dwi ddim i fod yn rhy flaenllaw wrth gwrs. O wylio rhaglen Channel 4, cynnal a phontio o un darn i'r llall mae llais Craig (Cash). A dyna ydi'n swydd i, cadw pethau i fynd.
"Mae llwyddiant y gyfres yn dibynnu ar y castio - cael y cymeriadau iawn.
"Dwi ddim yn gwybod pwy ydi nhw eto, mond eu bod nhw'n wynebau newydd.
"Dwi'n edrych 'mlaen 'cwrdd' a nhw, ac fel unrhyw berthynas mae'n mynd i gymryd amser i ddod i'w nabod nhw.
"Rhan fawr o lwyddiant Gogglebox, ydi fod nhw 'di ffeindio pobl mae pobl yn hoffi.
"Mae gan bawb eu ffefrynnau. Gan fod ni'n mynd mewn i'w cartrefi nhw, mae'n bwysig bod ni isio bod yna hefo nhw a bod y cymeriadau yn hwyl.
"Maen nhw'n gadael ni fynd i'w tai i fynd trwy'r doniol a'r dwys hefo nhw - mae'n berthynas mor bersonol.
"Dwi'n credu fod ambell aelwyd tu allan i Gymru ac mae hynny'n grêt. Mae 'na gymaint o Gymru yn byw i ffwrdd.
"Tydi ffiniau Cymru ddim yn llinell ar y map. Mae'r Cymry ymhob man, ac mae'n dangos fod y rhaglenni ar gael ymhob man hefyd."
Mae'r gyfres yn rhan o ddathliadau pen-blwydd S4C, sy'n nodi 40 mlynedd o ddarlledu.
Meddai Llinos Griffin-Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C: "Mae'n bleser mawr cael Gogglebocs Cymru fel rhan o ddathliadau 40 S4C. Mae'n fformat deledu gwych, sydd wedi dal dychymyg y genedl.
"Be'n well na rhaglen sy'n canolbwyntio ar sêr Cymru ar lawr gwlad? Bydd Gogglebocs Cymru yn ymestyn croeso i aelwydydd o amgylch y wlad a thu hwnt.
Cawn gwrdd â sawl cymeriad sy'n adlewyrchu Cymru gyfoes yn ei holl ogoniant.
Wynebau newydd sy'n rhoi llais i'n cymunedau amrywiol.
Er nad yw manylion y cast wedi'u rhyddhau eto, rydym ar ddeall bydd camerâu yn ymweld â chartrefi yn ardaloedd Brynaman, Caerdydd, Caerfyrddin, Caernarfon, Crymych, Dinbych, Llanelli, Maerdy, Manceinion, Pen-y-bont, Pwllheli, Talsarnau, Tregarth a Wrecsam dros y dyddiau nesa i ffilmio y benod cyntaf erioed.
"Cofiwch hefyd fod y drws wastad ar agor o ran castio, os ydych chi'n gweld eich hun fel rhywun bydd pobl yn mwynhau gwylio," ychwanega Llinos.
Ac fel rhywun sydd wedi hen arfer bod yn ffigwr cyhoeddus trwy ei waith teledu, radio a stand-yp – oes gan Tudur unrhyw gyngor i'r cast?
"Bydd o'n brofiad od iawn i ddechrau. Da ni jyst isio gweld nhw yn bod ynddyn nhw eu hunain. Nhw ydi'n llygadai ni ar y teledu mewn ffordd.
"Siawns fydd o'n anodd, siŵr o fod bydd lamp a chamera yn y lolfa ond cofiwch ymateb yn onest, mwynhau cwmni eich gilydd a pheidio bod rhy hunanymwybodol. A gobeithio newch chi fwynhau'r profiad."
"Trio peidio bwyta gormod fydda i, dyna di'n wendid i - stwffio. Ti'n gweld lot o'r teuluoedd hefo platiad o gacenni.
"Mae gen i rywbeth ar y go trwy'r amser - panad fel arfer, neu falla glasiad o win, dibynnu pa noson o'r wythnos."
Cofiwch gael y byrbrydau blasus a diodydd di-ri i mewn, yn barod at bennod cyntaf erioed Gogglebocs Cymru ar nos Fercher 2 Tachwedd ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.