22 Chwefror 2022
Bydd nifer ohonoch wedi gweld y clip feiral o'r seren realiti Gemma Collins yn trio canu'r gân eiconig, Yma o Hyd, wrth i dîm pêl-droed Cymru wynebu Lloegr yn ymgyrch Cwpan y Byd 2022.
Ond pwy sy'n gwybod pwy oedd tu ôl y stỳnt, a pham?
Wel, criw Hansh S4C sy'n gyfrifol gan fod y clip yn rhan o bennod gyntaf cyfres newydd sbon o'r enw Mwy na Daffs a Taffs, fydd ar gael i'w ffrydio ym mis Mawrth.
Bwriad y gyfres realiti yw herio'r hen ystrydebau sy'n codi pan mae'r Cymry'n trafod ein gwlad fach berffaith gyda phobl sydd heb gael eu magu yng Nghymru.
Sut mae gwneud hyn? Yn ddryw i naws Hansh, sef comedi a chreu trwbl da, bydd y gantores a'r actores Miriam Isaac yn dod â detholiad o selebs enwocaf y byd realiti yn y DU sydd gyda'u rhagfarn a syniadau pendant eu hunain am wlad y gân, a'u trochi yn ein diwylliant.
Bydd pob un o'r chwe phennod yn gweld un o'r wynebau cyfarwydd yn treulio deuddydd yng Nghymru, cyn datgelu os yw eu rhagfarnau a'u credoau gwreiddiol wedi newid.
Meddai Miriam: "Dwi isio gwybod be mae influencers ar-lein yn meddwl am Gymru. A fydd eu taflu mewn i brofiadau unigryw Cymreig yn newid eu hagwedd tuag at Gymru? Efallai? Gobeithio!"
Ymhlith yr wynebau cyfarwydd sy'n cymryd rhan mae'r GC ei hun, Gemma Collins o TOWIE, cyn-ymgeisydd The Apprentice Ryan-Mark Parsons, ac un a gyrhaeddodd rownd derfynol Love Island, Luca Bish.
Felly beth yw barn y 'selebs' cyn iddynt gael blas o Gymru?
"Pan dwi'n meddwl am Gymru, fydda i'n meddwl am fywyd y Cymoedd" cyfaddefa Gemma.
"Llond y lle o faw defaid, a llwyth o ddefaid. Ac oglau glo".
Hmmm. Miriam, mae gan Gemma gymaint i'w ddysgu. Beth am fynd â hi i Eisteddfod Tregaron?
A beth mae Luca'n feddwl?
"Pan yn meddwl am Gymru, dwi'n meddwl amdano fe fel rhan fach o Loegr. Dwi'n adnabod un gair Cymraeg; diech, diolk, diolch?
"Fy unig gysylltiad â Chymru fyddai, wrth dyfu fyny roeddwn i'n arfer cefnogi Tottenham a roedd Gareth Bale yn arfer chwarae iddyn nhw. Dwi wedi gwrando ar chydig o Tom Jones 'fyd."
Luca Bish a Miriam Isaac
A fydd barn Luca yn newid ar ôl treulio amser gyda Miriam a seren pêl-droed tîm merched Wrecsam, Lili Jones?
"Mae'r rhan fwyaf o'r Cymry wedi cwrdd â rhywun sy'n credu fod Cymru yn rhan arall o Loegr" meddai Guto Rhun, Comisiynydd Cynulleidfa Ifanc S4C.
"Da ni'n gwybod fod gan Gymru gymaint mwy i'w gynnig na chennin pedr â defaid.
"Felly, bwriad y gyfres yw herio'r rhagfarnau a'r rhagdybiaethau yn ogystal â dod â thalent boblogaidd o ar draws y Deyrnas Unedig i'n llwyfannau.
"Wrth herio a phryfocio, y gobaith yw sbarduno trafodaeth a gwneud i ni ofyn, ydyn ni'n hyrwyddo ein hunain digon?
"Trwy adlewyrchu Cymru amrywiol, fodern a'i pherthynas â gweddill y byd bydd Mwy na Daffs a Taffs yn lledaenu ymwybyddiaeth am ein diwylliant cyfoethog ac eang."
Bydd tair pennod gyntaf Mwy na Daffs a Taffs ar gael ar S4C Clic, BBC iPlayer a holl lwyfannau Hansh o ddydd Iau 2 Mawrth.
Bydd Tallia Storm, Blu Hydrangea a Vick Hope yn ymddangos mewn tair pennod pellach yn yr Haf.