6 Ebrill 2023
Mae S4C, y darlledwr cyhoeddus a'r unig sianel deledu Gymraeg, wedi rhoi'r golau gwyrdd i Y 'Sgubor Flodau ac wedi ail-gomisiynu Cymru ar Gynfas gan y cwmni cynhyrchu annibynnol o Gaerdydd, Wildflame Productions.
Mae Y 'Sgubor Blodau, cyfres 6 x 60 munud, yn fformat adloniant ffeithiol gwreiddiol newydd sbon. Pob wythnos yn y gyfres gynnes ac ingol hon rydyn ni'n dysgu am yr hyn sy'n ysgogi pobl i roi blodau fel rhoddion, gan ddatgelu straeon a fydd yn gwneud i ni chwerthin a chrio.
Mae'r hud a lledrith yn digwydd y tu mewn i'r 'Sgubor Flodau, ble mae ein trefnwyr blodau, Wendy Davies, Donald Morgan a Gaby Davies yn derbyn her i greu trefniadau pwrpasol, hardd a gwreiddiol. Lloyd Lewis, yw'r gyrrwr sy'n croesawu pob ymwelydd i'r 'Sgubor ac yn cael clywed y cefndir tu ôl i bob cais. O'r llon i'r lleddf, byddwn ni'n gweld sut mae rhodd o flodau gyda'r gallu i godi calon fel dim byd arall.
Byddwn ni'n cwrdd â Jayne a Wayne a gollodd eu merch Rhian i ganser ceg y groth 10 mlynedd yn ôl. Cawn glywed sut mae'r gronfa wnaethon nhw ei sefydlu er cof amdani wedi codi bron i filiwn o bunnoedd i Ganolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd. Mae ein trefnydd blodau yn ymateb i'r her bwysig trwy greu cofeb hardd sy'n hunan-hadu gyda blodau Glas y Gors (Forget-Me-Not).
Yng Ngorllewin Cymru, mae ffoaduriaid Wcrainaidd a ddaeth i Gymru i geisio lloches yn ystod y rhyfel ac sydd bellach wedi ymgartrefu yn y gymuned leol, eisiau diolch i'r bobl a roddodd groeso mor gynnes iddynt. Sut? Gyda wal ysblennydd o flodau haul, sef blodyn cenedlaethol Wcráin.
Mae Wildflame Productions hefyd wedi cael ei ail-gomisiynu gan S4C ar gyfer y gyfres boblogaidd Cymry ar Gynfas.
Daw Cymry ar Gynfas â chwe eicon Cymraeg ynghyd a chwe artist i greu chwe phortread sy'n adlewyrchu personoliaeth y wynebau cyfarwydd â dull unigryw pob artist. Yn ogystal â'r campwaith a ddatgelir ar ddiwedd y rhaglen, mae pob pennod yn cynnig darlun gonest ac agored o'r eicon a'r artist wrth iddynt sôn am eu profiadau a sut beth yw paentio, a chael eu paentio.
Mae'r cyfranwyr yn y gyfres newydd hwn yn cynnwys: y comedïwr, Kiri Pritchard-McLean gyda'r artist portreadau, Corrie Chiswell; y cerddor a'r cyflwynydd, Tara Bethan gyda'r argraffydd a'r artist caligraffi, Marian Haf; y comedïwr Tudur Owen gyda'r artist cyfoes, Anna E Davies; Aled Jones a'r artist Steve 'Pablo' Jones; y cyflwynydd Trystan Ellis-Morris a'r artist Tirluniau Lisa Eurgain Taylor; a'r cyflwynydd Jason Mohammad gyda'r artist tirlun Stephen John Owen.
Meddai Pennaeth Adloniant ac Adloniant Ffeithiol S4C, Elen Rhys: "Rydyn ni'n falch o gomisiynu Y 'Sgubor Flodau, cyfres adloniant ffeithiol wreiddiol sydd gyda chalon, dilysrwydd, a syrpreisys. Mae S4C gyda hanes o gynhyrchu fformatau newydd cyffrous sy'n apelio at y gynulleidfa ddomestig yn ogystal â chael apêl ryngwladol. Mae hyn yn cynnwys yr holl gynhwysion hudolus sydd eu hangen - gan ei ddweud, a mwy, gyda blodau hardd. Rydym hefyd yn falch iawn fod Cymry ar Gynfas yn dychwelyd - fformat uchel ei barch sydd bellach yn ei bedwaredd gyfres sy'n agor y drws ar y byd celf i'r gwyliwr gyda hygyrchedd a lliw."
Cyfres 6 x 60 gan Wildflame Productions ar gyfer S4C yw Y 'Sgubor Flodau. Sara Ogwen Williams yw cynhyrchydd y gyfres. Y Cynhyrchwyr Gweithredol yw Catrin Mair Jones a Will Knott. Lowri Jones yw'r cynhyrchydd. Comisiynwyd gan Elen Rhys yn S4C.
Cyfres 6 x 60 gan Wildflame Productions ar gyfer S4C yw Cymry ar Gynfas. Cynhyrchydd y Gyfres yw Manon Jones. Y Cynhyrchydd Gweithredol yw Catrin Mair Jones. Comisiynwyd gan Elen Rhys yn S4C.