18 Gorffennaf 2023
Fe fydd S4C yn darlledu mwy nag erioed o'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd eleni, gyda holl gystadlu'r prif gylch ar gael i'w wylio ar ffrydiau arbennig.
Gallwch wylio holl gystadlu a bwrlwm y Sioe ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer yn fyw pob dydd am 09:00 gydag is-deitlau Saesneg.
Dilynwch gystadlu y prif gylch yn unig o 08:00 yn Gymraeg a Saesneg ar YouTube a Facebook Y Sioe S4C.
Neu os ydych am wylio cystadlaethau unigol y Merlod a'r Cobiau yn fyw, ar eu hyd yn ddi-dor heb sylwebaeth gallwch wneud hynny ar Facebook neu You Tube Y Sioe S4C, a hynny o unrhyw le yn y byd o 8 y bore.
Yn cyflwyno'r Sioe eleni bydd tîm cynhwysfawr gan gynnwys Nia Roberts yn llywio digwyddiadau'r dydd, Ifan Jones Evans a Mari Lovgreen yn edrych nôl dros yr uchafbwyntiau gyda'r nos ac Alun Elidir, Meinir Howells, Aeron Pugh, Hannah Parr a Heledd Cynwal yn dod â holl gyffro'r maes a'r cystadlu ym mhob rhan o'r sioe.
Bydd yr wythnos yn dechrau gyda rhaglen arbennig ar nos Sul, Gorffennaf 23ain gyda rhagflas o ddigwyddiadau'r wythnos.
Mae cystadlaethau yn ymwneud â cheffylau bob amser yn boblogaidd, ac eleni am y tro cyntaf, bydd modd gwylio'r holl gystadlu o'r prif gylch yn eu cyfanrwydd.
Mae Hannah Parr yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan ac yn fridwraig ceffylau yn Llangeitho.
Bydd Hannah yn cyflwyno am y tro cyntaf erioed o'r Cylch, gyda Heledd Cynwal a David Oliver yn sylwebu. Esbonia Hannah:
"Dwi'n egseited bost ond hefyd yn nerfus iawn, wy'n berson sy'n gorfod neud gwd job o bethe.
"I fi, y gymuned yw'r peth mwyaf am y Sioe – mae'n fyd arall, does dim sioe tebyg ar y blaned, a ma' 'da fi brofiad mynychu sawl sioe.
"Y Sioe yw'r man lle dwi'n teimlo mwya' fel fi, ma' pawb sy' 'na o'r un anian. Dwi'n teimlo bod dim rhaid fi brofi fy hunan, bod dim rhaid tawelu y cynnwrf fi'n ei gael am y ceffylau, ma' pawb 'da'r un angerdd."
Ag yntau yn ffermwr defaid a gwartheg yn Meirionnydd, cneifio fydd maes sylwebu Alun, meddai:
"Beth sy'n ddifyr efo'r cneifio, pan ti'n meddwl am beth sy'n digwydd efo'r gwartheg a'r defaid ag ati, mae popeth mor bwyllog, mor dawel ac mae eisiau ceisio cadw'r anifeiliaid o dan reolaeth ac mae'r cneifio jyst yn ffwr' â hi llawn asbri a chalon.
"Dwi'n trio siarad efo'r bois i gyd. Y peth mwyaf dwi'n ei weld yw'r cyfuniad o barch sydd rhwng y bechgyn at ei gilydd achos mae'n her mor gorfforol ac anodd – cneifio 20 o ddefaid mewn 15 munud, a phawb o fewn eiliadau i'w gilydd, a'r parodrwydd i feithrin y talentau iau.
"Mae'r hen fois yn mynd trwyddo i fod yn stiwardiaid ac yn feirniaid. Y teimlad yw un teulu mawr o genedlaethau, mae 'na le i bawb o bob oed ynddo fo."
Mae disgwyl i'r sied gneifio fod yn brysur eleni yn dilyn llwyddiant y Cymry ym mhencampwriaeth y byd y Golden Shears yn Yr Alban fis Mehefin.
Coronwyd Gwion Evans o Clwt, sir Ddinbych yn bencampwr, gyda'i bartner cneifio Richard Jones o Langollen, yn dod yn ail. Medd Alun:
"Dan ni fel arfer yn edrych at Seland Newydd, ond mae'r rhod wedi troi erbyn hyn a'r Cymry yn dod i'r brig a Seland Newydd heb ddod yn agos am y tro cyntaf erioed.
"Bydd Seland Newydd am dalu'r pwyth yn ôl. Mae hi mor gyffrous gweld y gystadleuaeth yn tanio felly."
Daw goreuon y byd i gystadlu yn y Sioe Fawr a'r cyfan i'w gweld ar S4C. Gallwch hefyd weld holl uchafbwyntiau'r wythnos mewn rhaglen arbennig ar nos Sul, Gorffennaf 30 am 9pm.