Bydd ail gyfres y ddrama Dal y Mellt i'w weld ar S4C yn 2024.
Vox Pictures sydd yn cynhyrchu'r ddrama ac mae'r tîm wrthi yn ffilmio'r gyfres ar hyn o bryd ym Mangor, Caerdydd a Llundain.
Mae'r gyfres wedi ei seilio ar nofel newydd Iwan 'Iwcs' Roberts 'Dal Arni' sydd yn ddilyniant i'w nofel 'Dal y Mellt'.
Cafodd cyfres gyntaf Dal y Mellt ei werthu i Netflix dan yr enw Rough Cut, y ddrama iaith Gymraeg gyntaf i gael ei dangos ar y gwasanaeth ffrydio.
Mae Gwion Morris Jones yn dychwelyd fel y prif gymeriad, Carbo, tra bod Mici, Gronw, Antonia, Dafydd Aldo, Meri Jên, Cidw, Jiffy a Julia yn ail ymuno ar y siwrnai gyffrous.
Bydd nifer o gymeriadau newydd yn ymddangos y tro yma, gyda Matthew Gravelle yn portreadu Blew.
"Ar ôl llwyddiant y gyfres gyntaf ar S4C a Netfix dwi'n hynod o falch i gyhoeddi bydd y criw hoffus yn ôl am antur gyffrous arall flwyddyn nesaf.
"Mae'r stori yn parhau ac mae yna gymeriadau newydd a her newydd yn wynebu'r gang.
"Mae hwn yn gynhyrchiad uchelgeisiol fydd â chynulleidfa yma yng Nghymru ond ein bwriad yw sicrhau fod cynulleidfaoedd rhyngwladol yn gweld y gyfres hefyd."
"Mae Vox Pictures yn falch iawn o fod mewn cynhyrchiad eto gyda S4C ar yr ail gyfres o Dal y Mellt.
"Mae'n wych gallu adeiladu ar lwyddiant y gyfres gyntaf a dod a'r gang o gymeriadau lliwgar nôl at ei gilydd, a gweld y da a'r drwg yn croesi llwybrau.
"Mae heist arall llawn cyffro ar y gweill wrth i'n criw hoffus fynd ar ôl cyfoeth a chariad."
Bydd y nofel 'Dal Arni' gan Iwan 'Iwcs' Roberts yn cael ei gyhoeddi gan y Lolfa ddiwedd mis Hydref.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?