S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

19 Medi 2023

Mae S4C wedi cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg ar gyfer 2022/23.

Mae'r adroddiad blynyddol ar gael drwy ddilyn y ddolen yma.

Mae dyletswydd ar S4C i gydymffurfio gyda safonau penodol mewn perthynas â'r Gymraeg.

Yn deillio o hyn, mae gan S4C ddyletswydd sydd yn golygu na ddylai drin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru.

Mae S4C yn hyderus ein bod yn cydymffurfio gyda'r safonau penodol mewn perthynas â'r Gymraeg.

Mae'r Gymraeg yn greiddiol i fodolaeth S4C ac mae S4C yn falch o'r rôl hollbwysig mae'n ei chwarae o ran cynnal a hyrwyddo'r iaith. Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb, ac mae cefnogi siaradwyr Cymraeg – lle bynnag maent ar eu taith iaith – yn rhan ganolog o waith S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?