S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

26 Medi 2023

Gall gwylwyr ddewis cael isdeitlau Cymraeg ar raglenni Newyddion S4C.

Mae modd dewis opsiwn isdeitlau Cymraeg wrth wylio'r teledu a hefyd ar S4C Clic wrth wylio yn fyw a dal i fyny.

Mae clipiau o straeon newyddion wedi eu isdeitlo hefyd yn cael eu cyhoeddi ar app a gwefan Newyddion S4C.

Medd Bethan Rhys Roberts un o gyflwynwyr Newyddion S4C:

"Rwy'n hynod o falch bod Newyddion S4C yn cynnig y dewis i gael isdeitlau ar y rhaglenni Newyddion.

"Mae hyn yn golygu bod mwy o bobl yn medru gwylio'r rhaglen, sydd yn dod â'r holl straeon newyddion mawr o Gymru, Prydain a'r byd i'r gwylwyr.

"Bydd hyn yn rhoi mwy o gyfleon i'r gynulleidfa weld y straeon mawr sy'n effeithio ein bywydau trwy lens Cymreig."

Daw'r ychwanegiad hwn yn sgil ymgynghoriad gyda dysgwyr i ddeall ac ymateb i'w anghenion a'u harferion gwylio.

Mae S4C yn cefnogi targed Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar Safonau'r Gymraeg yn ddiweddar.

Medd Rhodri Llywelyn, cyflwynydd ar Newyddion S4C:

"Mae'n wych ein bod yn gallu cefnogi siaradwyr Cymraeg newydd fel hyn wrth iddyn nhw ddysgu a gwella eu defnydd o'r iaith.

"Bydd modd i ddysgwyr a'r rheiny llai hyderus yn eu Cymraeg, ddilyn yr hyn sydd yn cael ei ddweud trwy ddarllen ynghyd â chlywed, a chael deall y straeon mewn mwy o fanylder o ganlyniad."

Mae'r newidiadau hyn yn golygu mynediad haws i bawb allu defnyddio tipyn bach o Gymraeg bob dydd drwy wylio rhaglen Newyddion S4C gydag isdeitlau Cymraeg, neu drwy fynd i wefan S4C neu'r app Newyddion a chlicio ar y tab Dysgu Cymraeg.

Mae Newyddion S4C yn gynhyrchiad BBC Cymru i S4C ac mae modd gwylio Newyddion am 19:30 bob nos yn ystod yr wythnos.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?